Rhybudd newydd am streicio wrth i nyrsys wrthod cynnig Llywodraeth Cymru
Mae aelodau Coleg Brenhinol y Nyrsys wedi gwrthod cynnig gan Lywodraeth Cymru am dâl ychwanegol.
Dywedodd y nyrsys y dylai trafodaethau ail-ddechrau o fewn pum diwrnod neu fe fyddan nhw’n cyhoeddi dyddiadau newydd ar gyfer streicio.
“Rhaid bod yn glir: dyw’r cynnig heb ei dderbyn gan aelodau Coleg Brenhinol y Nyrsys,” meddai eu cyfarwyddwr yng Nghymru, Helen Whyley.
“Cafodd ein haelodau bleidlais ar gynnig newydd Llywodraeth Cymru.
“Maen nhw wedi pleidleisio yn erbyn y cynnig. O ganlyniad mae’r anghydfod yn parhau.
"Rydw i wedi ysgrifennu at y gweinidog heddiw i annog Llywodraeth Cymru i drafod yn uniongyrchol gyda'r undeb unwaith eto. Os na fydd hyn yn digwydd o fewn pum diwrnod gwaith ni fydd gen i unrhyw ddewis ond cyhoeddi dyddiadau pellach ar gyfer streiciau."
Roedd nyrsys yng Nghymru wedi canslo streiciau ddechrau'r mis ar ôl cynnig newydd gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ar y pryd eu bod nhw'n obeithiol y byddai modd osgoi gweithredu diwydiannol o ganlyniad.
Mae nyrsys yn Lloegr hefyd wedi atal streiciau ar hyn o bryd oherwydd trafodaethau gyda Llywodraeth y DU.