Newyddion S4C

'Hollbwysig' cael gwasanaeth i gefnogi ffermwyr

'Hollbwysig' cael gwasanaeth i gefnogi ffermwyr

Mae hi'n 'hollbwysig' bod ffermwyr yn ymwybodol o'r gwasanaethau cymorth sydd ar gael i'w cefnogi, yn ôl un sy'n gweithio i elusen Tir Dewi.  

Mae Tir Dewi yn elusen sy'n cefnogi ffermwyr a'u teuluoedd, ac mae'r nifer y galwadau i'w llinell gymorth wedi cynyddu yn gyflym iawn dros y gaeaf. Dywedodd yr elusen fod y nifer o alwadau i'w llinell gymorth "wedi cynyddu 5 i 8 gwaith."

Cafodd yr elusen ei sefydlu yn 2015 er mwyn cynnig cymorth i ffermwyr sy'n dioddef neu yn mynd drwy gyfnodau anodd.

Ar hyn o bryd, mae Tir Dewi wedi ei lleoli yn ardaloedd Sir Benfro, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Powys, Conwy, Ynys Môn, Gwynedd a'r Gŵyr. 

Mae Wyn Thomas yn wirfoddolwr gyda'r elusen, a dywedodd wrth Newyddion S4C fod y "gaeaf wrth gwrs yn gallu bod yn gyfnod anodd iawn a dyna'r math o ofidie sydd 'di bod dros y gaeaf 'leni yw prinder bwyd a choste cynyddol popeth."

Ychwanegodd ei bod hi'n hollbwysig fod ffermwyr yn ymwybodol o'r gwasanaethau sydd ar gael i'w cefnogi. 

'Bwysig iawn iawn'

"Ma' hi'n bwysig iawn iawn bod ffermwyr yn gwybod bod y gwasanaeth yna, y'n ni'n hollol gyfrinachol ac am ddim ac ma'r angen yn bendant yna," meddai. 

"Y'n ni wastad yn gweud, gath yr elusen ei sefydlu ryw chwe, saith mlynedd yn ôl erbyn hyn ac os y'n ni'n gallu helpu un person, mae e werth yr holl waith, dim ond i helpu un person i ddod o le tywyll yn eu bywyde nhw felly ma' fe'n hollbwysig bod ni yna."

Mae'r elusen bellach yn hysbysebu tipyn mwy yn yr oes sydd ohoni, ac yn ôl Wyn, mae hynny yn rhannol gyfrifol am y cynnydd yn y galwadau.

'Ymwybodol ohonom ni'

"Y'n ni wedi ehangu fel elusen a ryw ddwy flynedd yn ôl, fe wnaethom ni lansio ein gwasanaeth ni yng ngogledd Cymru ac wrth gwrs, mae'n cymryd amser i bobl i ddod i ymddiried yn yr enw ac i ddod i wybod amdanom ni.

"Y'n ni yn gweld cynnydd yn y galwade ac yn y gofyn sydd ohonom ni ond ma' hynny falle fwy yn ymwneud gyda mwy o ffermwyr yn ymwybodol ohonom ni.

"Mae'n dda o beth bod ffermwyr yn gofyn am help, mae'n drueni bod angen help ond mae'n dda o beth eu bod nhw'n dod yn fwy tebygol erbyn hyn o ofyn am help ac o ddod yn ymwybodol ein bod ni'n gallu helpu gydag unrhyw broblem."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.