Newyddion S4C

Cyhuddo tri chwaraewr yn dilyn anhrefn mewn gêm bêl-droed yn Y Rhyl

28/02/2023
Pêl-droed

Mae tri chwaraewr pêl-droed wedi'u cyhuddo o ymladd yn dilyn anhrefn ar y cae yn ystod gêm yn Y Rhyl. 

Cynhaliodd yr heddlu ymchwiliad yn dilyn yr anhrefn yn ystod y gêm rhwng Rhyl 1879 a Bangor 1876 ym mis Hydref y llynedd. 

Bellach mae tri chwaraewr - Alex Jones, 28, a Leon Atkins, 21 oedd yn chwarae i'r Rhyl a Shaun Lock, 30, oedd yn chwarae dros Fangor - wedi'u cyhuddo o ymladd. 

Cafodd Alex Jones hefyd ei gyhuddo o ymosod ar chwaraewr arall. 

Mewn datganiad, dywedodd y Ditectif Gwnstabl Kieran Davies fod y ddau clwb a Chymdeithas Bêl-Droed Cymru wedi cydweithio gyda'r heddlu yn ystod yr ymchwiliad. 

Fe fydd y tri yn ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno ar 29 Mawrth. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.