Newyddion S4C

Richard Wyn Jones a Jerry Hunter

Lansio podlediad newydd am hanes llenyddiaeth y Gymraeg

NS4C 28/02/2023

Mae podlediad newydd ar fin cael ei lansio am hanes llenyddiaeth y Gymraeg.

Mae awduron y podlediad ‘Yr Hen Iaith’ yn ei disgrifio fel “cyfres hwyliog am hanes llenyddiaeth Gymraeg”.

Bydd yn cynnwys yr Athro Jerry Hunter o Brifysgol Bangor a’r Athro Richard Wyn Jones o Brifysgol Caerdydd.

Bydd y bennod gyntaf ‘Yn y dechreuad yr oedd….Y Gododdin’ ar gael ar ddydd Iau Mawrth 9fed gyda phennod newydd ar gael yn wythnosol yn dilyn hynny.

“Dwi'n hynod falch bod Richard Wyn Jones wedi ymroi i ddysgu am hanes llenyddiaeth yr iaith Gymraeg,” meddai Jerry Hunter.

“Mae'r podlediad hwn yn deillio o'n cyfeillgarwch hir ni. O ddifri calon - dwi ddim yn gorddweud! Dwi wedi bod yn edliw ei ddiffyg gwybodaeth am y maes pwysig hwn iddo ers degawdau - yn llythrennol, ers degawdau! - a dyma fo wedi penderfynu gwneud rhywbeth amdano o'r diwedd.

“Bydd rhaid i mi dderbyn gwersi ganddo am wleidyddiaeth Cymru ryw ddydd er mwyn iddo gael talu'r pwyth yn ôl!”

‘Trwytho’

Ychwanegodd Yr Athro Richard Wyn Jones “Fel llawer, mae fy nghwybodaeth am lenyddiaeth fy iaith fy hun yn llawn bylchau ac, a bod yn gwbl onest, mor annigonol nes ei fod yn destun cryn embaras.

“Ond yn ffodus, mae un o’m cyfeillion agosaf, Jerry Hunter, wedi treulio degawdau yn trwytho ei hun yn y cyfan – o’r Gododdin i Gerallt, ac o Lyfr Coch Hergest i Lyfr Glas Nebo.

“A mae o wedi cytuno i’m tywys i ac unrhyw un arall sydd â diddordeb ar daith trwy hanes Yr Hen Iaith. Croeso mawr i chi gyd!”

Llun: Richard Wyn Jones a Jerry Hunter

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.