Newyddion S4C

'Pwysig iawn' i godi ymwybyddiaeth o gyflyrau prin

'Pwysig iawn' i godi ymwybyddiaeth o gyflyrau prin

NS4C 28/02/2023

Mae hi'n Ddiwrnod Cyflyrau Prin ddydd Mawrth, sydd yn ddiwrnod i godi ymwybyddiaeth o gyflyrau prin a'r triniaethau ar eu cyfer, ac un sydd yn byw gyda chyflwr prin ydi Mari Elin Lewis o Landwrog. 

Mae Mari yn 10 oed ac yn byw gyda chyflwr o'r enw syndrom WAGR sydd yn effeithio ar ei golwg. 

Dywedodd ei mam, Caryl Lewis, wrth Newyddion S4C bod "Mari wedi cael ei geni efo cyflwr prin iawn o'r enw WAGR syndrome, a wedyn i ni gal dalld, does na mond ryw 400 achos yn y byd o'r cyflwr.

"Dan ni ddim yn meddwl bod na neb arall yng Nghymru efo fo, 'dan ni eto i ffeindio neb a ryw 20 achos sydd 'na ym Mhrydain i gyd.

"Pan gath Mari ei geni, gafo ni ein cadw mewn yn yr ysbyty achos oedda nhw 'di pigo fyny bo' 'na rwbath ddim yn iawn efo'i llygaid hi, aru nhw ddeud ar y pryd bo genna hi ddim iris a doeddan nhw ddim yn gwbo yn iawn be odd y rheswm dros hynny ag odda ninna 'di dechra mynd i banicio.

Image
Mari
Cafodd Mari ei geni gyda chyflwr prin o'r enw syndrom WAGR

Cafodd Mari ofal am 10 diwrnod yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor cyn cael mynd adref, ond ychydig ddyddiau wedyn, cafodd Mari ei rhuthro i Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl gyda phroblemau yn ymwneud â'i choluddyn. 

Tra yn Alder Hey, cafodd weld offthalmolegwr a gadarnhaodd fod gan Mari gyflwr llygaid o'r enw Aniridia sy'n gallu bod yn rhan o gyflwr hyd yn oed mwy prin o'r enw syndrom WAGR. 

Mae'r cyflwr yn golygu bod llygaid Mari heb ddatblygu yn iawn a does ganddi hi ddim iris ac mae hi'n sensitif iawn i olau. 

"Mae Mari 'di cofrestru yn ddall felly 'chydig iawn iawn o olwg sydd ganddi hi," meddai Caryl. 

'Pwysig codi ymwybyddiaeth'

Dywedodd Caryl ei bod hi'n "bwysig iawn i godi ymwybyddiaeth o gyflyrau prin er mwyn gwneud yn siwr bo' 'na fwy o ymchwil yn mynd fewn iddyn nhw a bod pobl yn cael mynediad neu diagnosis cynnar i ddechra a mynediad at y gwasanaeth a'r gefnogaeth ma' nhw angan a helpu i ffeindio cure os yn bosib. 

"Ma' range y cyflwr mor eang, does na'r un achos yr un fath rili so mae o'n rili anodd achos ti isio siarad efo rywun sydd 'di bod drwy rwbath tebyg."

Ers roedd Mari yn fabi, mae'r teulu wedi bod yn cael cymorth drwy Gymdeithas y Deillion a Chŵn Tywys Cymru a daethant yn ymwybodol o gynllun Buddy Dogs. 

"Ddaru Drift ddod ata ni i fyw jyst dros flwyddyn a hannar yn ôl a mae o 'di newid ein bywyda ni lle doeddan ni ddim rili 'di meddwl cael ci ond ma' pawb 'di gwirioni efo fo, yn enwedig Mari," meddai Caryl.

"Mae o fwy o ran cefnogaeth emosiynol iddi hi, bod yna fel cyfaill a hefyd cyfrifoldeb - ma' Mari yn gyfrifol am betha fel pwyso ei fwyd o a'i gribo fo a mae o'n helpu'r plentyn hefyd i baratoi i ymgeisio am gi tywys."

Image
Mari a Drift
Mae Mari a Drift yn dipyn o ffrindiau.

Mae Caryl yn falch iawn o Mari. 

"Dan ni'n falch iawn o Mari a bob dim mae hi wedi llwyddo i gyflawni er gwaethaf bob dim sydd 'di gwynebu hi.

"Ma' hi'n ofnadwy o benderfynol, does na ddim byd yn cael hi lawr, 'di byth yn cwyno am ddim byd. Ma' hi'n ofnadwy o annibynnol a ma' hi mor hapus a mor brysur, does 'na ddim byd yn dal hi nôl."

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.