Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn cyhoeddi y bydd Kings of Leon yn chwarae ar y Cae Ras
Mae Ryan Reynolds a Rob McElhenney wedi cyhoeddi y bydd Kings of Leon yn chwarae ar y Cae Ras mewn fideo i gydfynd â Dydd Gŵyl Dewi.
Fe fydd y band Americanaidd yn chwarae yn Wrecsam ar 27 a 28 Mai, gyda band o Wrecsam Declan Swans yn eu cefnogi.
Bydd y tocynnau ar gael i’w prynu o flaen llaw o Ddydd Gŵyl Dewi ymlaen.
The @Wrexham_AFC Glee Club is really setting the bar high this May. @KingsOfLeon pic.twitter.com/GSlA8gkIlS
— Ryan Reynolds (@VancityReynolds) February 27, 2023
Meddai Ryan Reynolds a Rob McElhenney: “Ddydd Mercher yma yw Dydd Gŵyl Dewi – dydd bron yn Ddydd Gŵyl Dewi hapus!
“Efallai nad ydych chi’n gwybod amdano ond mae’n beth mawr. Dewi oedd nawdd sant Cymru a’r wythnos yma yng Nghymru bydd modd i chi weld cennin a cennin pedr.
“A chlywed lot fawr o ganu," medden nhw cyn cyflwyno Kings of Leon.
Llun: Rob McElhenney a Kings of Leon (CC BY 2.0).