Arolwg barn yn awgrymu chwalfa i'r Ceidwadwyr Cymreig mewn etholiad cyffredinol

Byddai'r blaid Geidwadol bron yn diflannu yn gyfan gwbl yng Nghymru mewn etholiad cyffredinol, yn ôl arolwg barn newydd.
Mae arolwg barn YouGov sydd wedi ei gomisiynu ar gyfer WalesOnline yn dangos fod cyfran y Ceidwadwyr o'r bleidlais bellach yn 19% tra bod un Llafur wedi cynyddu o 41% yn 2019 i 53% erbyn heddiw.
Ymysg pobl rhwng 25 a 49, dim ond 7% o bobl fyddai'n pleidleisio dros y Ceidwadwyr.
Mae'r canfyddiadau hefyd yn awgrymu fod 19% o bobl a bleidleisiodd dros y Ceidwadwyr yn 2019 bellach yn ffafrio Llafur, ac y byddai 28% o bobl a wnaeth bleidleisio dros Blaid Cymru yn dewis Llafur erbyn heddiw.
Mae hefyd yn awgrymu fod y bleidlais Geidwadol yn isel iawn ymysg pobl sydd o dan 50 ac yn gweithio.
Yn ddaearyddol, mae'r blaid Lafur yn gryf iawn yng Nghaerdydd ac ardaloedd y Cymoedd, lle mae 62% o bobl yn bwriadu pleidleisio o'u plaid yn ôl yr arolwg.
Yn ôl Canolfan Llywodraethiant Cymru, mae'r arolwg barn yn awgrymu y byddai'r blaid Geidwadol yn cadw dwy sedd yn unig yng Nghymru, sef y nifer isaf ers iddyn nhw fethu â chipio unrhyw sedd yn etholiad cyffredinol 2001.