Rishi Sunak ac Ursula von der Leyen yn dod i gytundeb ar ddyfodol protocol Gogledd Iwerddon
Mae'r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi dod i gytundeb newydd ar ddyfodol protocol Gogledd Iwerddon ar y cyd gyda Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Ursula von der Leyen.
Maen nhw wedi dod i gytundeb yn ymwneud â masnach yn dilyn trafodaethau terfynol yn Windsor, Berkshire yng nghanol gwrthwynebiad gan wleidyddion Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd.
Mewn cynhadledd newyddion yn Windsor, dywedodd y Prif Weinidog Rishi Sunak bod y protocol gwreiddiol wedi ei newid ac y bydd yn cael ei adnabod bellach fel Fframwaith Windsor.
Ychwanegodd Mr Sunak y bydd masnach yn " llifo'n rhwydd trwy lwybr gwyrdd " ar gyfer nwyddau sy'n cyrraedd Gogledd Iwerddon o wledydd eraill yn y Deyrnas Unedig."
Yn ôl Rishi Sunak, mae hynny'n golygu na fydd "unrhyw ffin ym Môr Iwerddon."
Mae'r cytundeb hwn heddiw yn nodi "pennod newydd" yn y berthynas rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd," yn ôl y Prif Weinidog.
"Mae'n diogelu'r cydbwysedd bregus yng Nghytundeb Gwener Y Groglith yn 1998. Mi fydd yn dod â'r ansicrwydd i ben ar gyfer pobl Gogledd Iwerddon," ychwanegodd.
Yn y gynhadledd newyddion brynhawn Llun, dywedodd Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd Ursula von der Leyen bod y fframwaith newydd "o fudd i bobl Gogledd Iwerddon, ac yn cefnogi pob cymuned sy'n dathlu heddwch ar ynys Iwerddon."
Gorffenodd Ursula von der Leyen ei thaith wrth ymweld â'r Brenin Charles III ddiwedd y prynhawn.
Mae'r ymweliad hwnnw wedi gwylltio unoliaethwyr. A dywedodd y Ceidwadwr Jacob Rees-Mogg na ddylid "cynnwys y Brenin Charles mewn mater gwleidyddol dadleuol."
Yn ôl y Farnwnes Arlene Foster, cyn arweinydd Plaid y DUP a Gweinidog Cyntaf Gogledd Iwerddon, roedd y cyfarfod yng Nghastell Windsor yn annoeth.
Yn ôl Palas Buckingham, roedd y Brenin Charles yn gweithredu yn sgil "cyngor gan y Llywodraeth."
Dywedodd Downing Street ei fod yn benderfyniad i'r Brenin.
Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi dweud ei fod yn croesawu'r cytundeb newydd ar gyfer masnach Gogledd Iwerddon.
"Gobeithio y bydd yn lleddfu'r rhwystrau i fasnach a brofwyd ym mhorthladdoedd Cymru
"Mae hefyd yn gam tuag at well berthynas rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd, sydd er ein lles ni i gyd," meddai.
Dywedodd arweinydd Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd, Syr Jeffrey Donaldson y byddai yn cymryd amser iddyn nhw ystyried cynnwys y cytundeb cyn ymateb.
Ohwerwydd gwrthwynebiad plaid y DUP i'r protocol, dyw Cynulliad Gogledd Iwerddon ddim wedi medru cwrdd a gweithredu o Stormont, gan fod y blaid unoliaethol yn gwrthod ail ymgynnull yno.
Mae disgwyl y gallai’r Prif Weinidog hefyd wynebu gwrthwynebiad gan rai o’i ASau Ceidwadol ei hun, gyda’r cyn-weinidog Jacob Rees-Mogg yn rhybuddio am hynny.
Dywedodd hefyd y gallai gwrthwynebiad y cyn Brif Weinidog Boris Johnson o'r meinciau cefn fod yn ddigon i ddymchwel y cytundeb.
Mewn datganiad yn Nhŷ'r Cyffredin am 18.30 dywedodd Rishi Sunak ei fod wedi llwyddo i berswadio'r Undeb Ewropeaidd i ail edrych ar y cytundeb ar gyfer Gogledd Iwerddon.
Mae hwn yn newid pwysig a fydd yn cael gwared ag unrhyw ffin ym Môr Iwerddon," meddai.
Llun o Rishi Sunak ac Ursula von der Leyen gan PA/ Dan Kitwood.