Newyddion S4C

Ysbyty Gwynedd, Bangor

Rhoi Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr dan fesurau arbennig unwaith eto wedi adroddiad damniol

NS4C 27/02/2023

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cael ei osod dan fesurau arbennig unwaith eto a nifer o aelodau y bwrdd rheoli wedi camu o’r neilltu.

Mae Cadeirydd, Is-gadeirydd ac aelodau annibynnol y Bwrdd wedi cytuno i gamu i’r naill ochr. 

Daw’r ymddiswyddiadau lai nag wythnos wedi i adroddiad damniol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ddweud fod problemau ar frig Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn “berygl sylfaenol” i allu’r bwrdd i weithio’n effeithiol.

Mae'n golygu rhagor o ansicrwydd o fewn Bwrdd Iechyd a fu dan reolaeth Llywodraeth Cymru rhwng 2015 a 2020.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan: “Mae gen i bryderon difrifol am berfformiad y bwrdd iechyd a dw i ddim wedi gweld y gwelliant i wasanaethau dw i’n ei ddisgwyl ar gyfer pobl y Gogledd. Dw i felly wedi penderfynu cymryd camau i unioni hyn.

“Dw i wedi rhoi gwybod i’r Bwrdd fy mod yn rhoi’r sefydliad yn ôl o dan Fesurau Arbennig, a hynny ar unwaith. Mae’r penderfyniad sylweddol hwn yn cael ei wneud yn unol â’r fframwaith uwchgyfeirio.

"Mae’n adlewyrchu pryderon difrifol am berfformiad y sefydliad, am ei lywodraethiant, a materion yn ymwneud ag arweinyddiaeth a diwylliant sy’n ei atal rhag gwella.

“Dw i’n cydnabod bod y bwrdd iechyd wedi wynebu heriau sylweddol ers sawl blwyddyn ac wedi gweithio’n galed i oresgyn yr heriau hyn. Serch hynny, nawr yw’r amser am arweinwyr newydd i wneud y gwelliannau sydd eu hangen.”

Dyfed Edwards fydd Cadeirydd newydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. Mae'n gyn-arweinydd Cyngor Gwynedd a dirprwy gadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru.

Bydd yn cael ei gefnogi gan Gareth Williams, Karen Balmer a Rhian Watcyn Jones fel aelodau annibynnol interim o’r Bwrdd.

Bydd penodiadau uniongyrchol pellach yn cael eu gwneud yn yr wythnosau nesaf meddai Llywodraeth Cymru.

Mewn ymateb i'r newyddion, dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig y dylai'r bwrdd iechyd fod wedi aros o dan fesurau arbennig yn 2020. 

"Fel dywedom ar y pryd, ni ddylai'r bwrdd iechyd fod wedi'i dynnu allan o fesurau arbennig," meddai'r Gweinidog Cysgodol dros Iechyd, Russell George. 

"Ni wnaeth y bwrdd ddangos digon o gynnydd i gyfiawnhau'r newid, ac mae'n ymddangos i'r penderfyniad gael ei wneud oherwydd hwylustod gwleidyddol, gan iddo ddigwydd ar drothwy etholiad.

"Mae gan Lywodraeth Cymru nifer o gwestiynau i'w hateb am alluogi'r sefyllfa i ddirywio fel hyn, gan fethu pobl gogledd Cymru sydd yn haeddu mwy gan eu bwrdd iechyd."

Fe wnaeth Rhun ap Iorwerth, llefarydd Plaid Cymru dros Iechyd, hefyd yn beirniadu penderfyniad y llywodraeth i dynnu'r bwrdd iechyd allan o fesurau arbennig. 

"Mae methiant wedi bod yn arweinyddiaeth gweinidogion y llywodraeth, nid yn unig o fewn arweinyddiaeth Betsi Cadwaladr," meddai. 

"Mae pobl gogledd Cymru wedi gweld adroddiad damniol ar ôl adroddiad damniol ynglŷn â'u gwasanaethau iechyd. 

"Nhw sydd yn dioddef oherwydd y gamweithred, diffyg gallu a'r llanast sydd wedi'i greu gan Lywodraeth Cymru o dan Lafur."

"Mae cleifion a staff Betsi Cadwaladr yn haeddu gwell gan eu llywodraeth. Y lleiaf maen nhw'n haeddu yw ymddiheuriad, ond be sydd gwir angen yw i'r llywodraeth camu lan a chymryd cyfrifoldeb am y llanast yma."

'Cwbl amlwg'

Yn yr adroddiad a gyhoeddwyd ddydd Iau dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru fod "problemau dwfn" o fewn bwrdd arweinyddiaeth y corff sy’n gwasanaethu gogledd Cymru.

Yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad galwodd un o bwyllgorau'r Senedd am ymyrraeth frys gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd, Mark Isherwood, fod yr adroddiad yn un “ysgytwol”.

"Yr hyn sydd fwyaf brawychus yw'r effaith y mae hyn yn ei chael ar gleifion, gan nad ydynt yn cael y gwasanaethau iechyd sydd wir eu hangen arnynt,” meddai.

Yn ôl adroddiad gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, Adrian Compton roedd heriau yn “peryglu’n sylfaenol gallu’r bwrdd i weithio’n effeithiol ac mewn modd integredig i fynd i’r afael â’r heriau sylweddol y mae’r Bwrdd Iechyd yn eu hwynebu”.

Ychwanegodd fod “holltau” a “carfannau eglur a dwfn” yn bodoli o fewn y Tîm Gweithredol, a’r bwrdd ehangach i raddau.

“Mae’r camweithrediad o fewn y Tîm Gweithredol yn gwbl amlwg i’r Aelodau Annibynnol ar y bwrdd,” meddai.

“Mae hyn, ynghyd â phryderon am afael y Tîm Gweithredol ar heriau gweithredu ac ansawdd sicrwydd, wedi erydu ymddiriedaeth a hyder Aelodau Annibynnol yn y Tîm Gweithredol.”

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.