Llefarydd benywaidd cyntaf Tŷ’r Cyffredin Betty Boothroyd wedi marw

Mae'r Fonesig Betty Boothroyd, y fenyw gyntaf i fod yn llefarydd yn Nhŷ’r Cyffredin yn San Steffan, wedi marw yn 93 oed.
Fe wnaeth y llefarydd presennol, Syr Lindsay Hoyle, gyhoeddi ei marwolaeth wrth siarad yn San Steffan ddydd Llun.
Roedd Y Fonesig Boothroyd yn Aelod Seneddol am dros 25 mlynedd, gan gynrychioli etholaeth West Bromwich.
Cafodd ei henwi yn llefarydd Tŷ’r Cyffredin yn 1992 gan aros yn y rôl am wyth mlynedd.
Ar ôl ymddeol o Dy'r Cyffredin yn 2000, bu'n eistedd yn Nhŷ’r Arglwyddi am weddill ei hoes.
'Ysbrydoledig'
Wrth dalu teyrnged iddi, dywedodd Syr Lindsay Hoyle fod Y Fonesig Boothroyd wedi "torri tir newydd" yn ystod ei gyrfa.
"Roedd Betty Boothroyd nid yn unig yn fenyw ysbrydoledig, ond hefyd yn wleidydd ysbrydoledig a rhywun yr oeddwn i'n falch i'w galw yn ffrind.
"Doedd neb fel Betty. Menyw ffraeth a chryf, byddaf yn gweld ei heisiau hi."
Yng Nghymru, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, y bydd Y Fonesig Boothroyd yn gadael "etifeddiaeth hirfaith."
"Doedd neb fel Betty," meddai.
"Mi oedd hi'n deall y rôl o lefarydd, pwysigrwydd bod yn ddiduedd ac i anghofio ei chysylltiadau i'w phlaid o'r gorffennol.
"Rydw i yn drist tu hwnt i glywed am ei marwolaeth."