Newyddion S4C

S4C

Y Springboks eisiau penodi Nigel Owens fel hyfforddwr dyfarnu, yn ôl adroddiadau

NS4C 27/02/2023

Mae tîm rygbi De Affrica eisiau penodi Nigel Owens i’w tîm hyfforddi, yn ôl adroddiadau.

Yn ôl stori ym mhapur newydd City Press yn Ne Affrica, mae’r Springboks yn gobeithio penodi’r cyn-ddyfarnwr o Fynyddcerrig fel hyfforddwr dyfarnu.

Mae pwyllgor gweithredol Rygbi De Affrica yn ystyried y posibilrwydd ar hyn o bryd, medden nhw.

Dan arweiniad Jacques Nienaber a Rassie Erasmus, bydd Pencampwyr y Byd yn ceisio dal eu gafael ar y Gwpan pan fydd y gystadleuaeth yn cael ei gynnal yn Ffrainc ym mis Medi a Hydref.

Daeth Owens yn un o ddyfarnwyr amlycaf y gamp ystod ei yrfa, wrth iddo ddyfarnu dros 100 gêm ryngwladol, gan gynnwys Rownd Derfynol Cwpan y Byd 2015.

Ers ymddeol yn 2020, mae Owens wedi gweithio fel ffermwr, yn ogystal â gwneud ymddangosiadau yn y cyfryngau, a chyd-gyflwyno cyfres S4C, Jonathan.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.