Ofgem yn gostwng y cap ar brisiau ynni ond biliau yn dal i godi

Mae'r rheoleiddiwr ynni Ofgem wedi penderfynu y bydd y cap ar brisiau ynni yn gostwng bron i £1,000 y flwyddyn o fis Ebrill ymlaen.
Ond bydd cwsmeriaid yn dal i dalu mwy ar eu biliau o fis Ebrill ymlaen wrth i Lywodraeth y DU roi llai o arian tuag at gadw costau biliau yn isel.
Bydd cap prisiau ynni Ofgem yn gostwng o £4,279 y flwyddyn i £3,280.
Pwrpas y cap ar brisiau ynni ydy cyfyngu ar y bil cyfartalog mae aelwydydd yn gorfod ei dalu bob blwyddyn.
Ond bydd cwsmeriaid yn talu tua 20% yn fwy - tua £500 bob blwyddyn - oherwydd fe fydd Llywodraeth y DU yn rhoi llai o gymorth ariannol.
Dywedodd Prif Weithredwr Ofgem, Jonathan Brearley, ei fod yn gwybod y bydd y newyddion yn "peri pryder" i'r rheini sy'n talu biliau ynni.
"Mae prisiau’n annhebygol o syrthio yn ôl i’r lefel a welsom cyn yr argyfwng ynni," meddai.
"Hyd yn oed gyda’r pecyn helaeth o gymorth gan y llywodraeth, mae hwn yn mynd i fod yn gyfnod anodd iawn i lawer o aelwydydd ledled Prydain."