Newyddion S4C

Goleuni'r gogledd

Goleuni'r gogledd i’w weld o Gymru

NS4C 27/02/2023

Roedd modd gweld goleuni’r gogledd o Gymru ddydd Sul ac mae’n bosib y bydd yn ymddangos eto ddydd Llun, meddai Swyddfa’r Met.

Trydarodd y swyddfa dywydd gyfres o luniau gan gynnwys un wedi ei dynnu gan unigolyn yng ngogledd Cymru.

Mae’r awrora yn cael ei achosi gan wynt solar ac i’w weld fwyaf aml yn yr Arctig a'r Antarctig, ond weithiau mae’n ymddangos ymhellch tua’r de.

Ymatebodd nifer o ddefnyddwyr Twitter ar draws y DU gyda'u lluniau eu hunain o'r awrora.

Llun: Goleuni'r gogledd gan Varjisakka (CC BY-SA 3.0).

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.