Newyddion S4C

Nick Tompkins

Hanfodol fod Cymru yn 'dod o hyd i atebion' yn erbyn Yr Eidal

NS4C 27/02/2023

Mae canolwr Cymru Nick Tompkins wedi dweud ei fod yn hanfodol fod Cymru yn 'dod o hyd i atebion' pan maen nhw'n teithio i Rufain i herio'r Eidal ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Dyna fydd gêm olaf ond un Cymru, cyn wynebu Ffrainc ym Mharis.

Nid yw'r Eidal na Chymru wedi ennill yr un o'u gemau yn y bencampwriaeth eleni, sy'n golygu ei fod yn debygol y bydd y tîm sy'n colli yn 'ennill' y llwy bren eleni.

Dywedodd Tompkins fod angen ymateb da ar ôl colli 10-20 yn erbyn Lloegr ddydd Sadwrn.

"Mae'n hollbwysig ein bod yn dod o hyd i atebion - mae angen perfformiad emosiynol ond un sydd hefyd wedi ei reoli'n dda," meddai.

"Mae'n bwysig i'r grŵp wella a chyd-dynnu yn ystod y cyfnod nesaf. Allwn ni ddim troi ar ein gilydd, mae'n rhaid i ni wneud hwn gyda'n gilydd."

Colli i'r Azzurri eto? 

Collodd Cymru i'r Eidal yng Nghaerdydd y llynedd, y tro cyntaf i'r Azzurri ennill yn y gystadleuaeth ers 2015.

Mae'n 20 mlynedd ers i Gymru orffen ar waelod y gystadleuaeth gan golli pob gêm.

Dim ond tri chais sydd wedi eu sgorio gan Gymru, ac fe allai'r trip i Rufain fod yn un anodd. Mae Tompkins yn dweud bod Gatland wedi bod yn arbrofi gyda'r garfan a nad oedd cael y chwaraewyr gorau yn y safleoedd gorau yn digwydd dros nos.

"Mae'n gweithio ar y cyfuniadau ar y cae," meddai.

"Dwi'n meddwl, gyda'r hyfforddwyr newydd, mae e wastad yn mynd i fod yn anodd. Mynd o un i'r llall, dwy system wahanol o chwarae a cheisio darganfod y cyfuniadau iawn.

"Mae Gats (Warren Gatland) yn ceisio darganfod y cyfuniadau, boed hynny yn ieuenctid neu brofiad. Beth bynnag sydd yn ffitio orau ac sydd mynd i helpu'r garfan."

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.