Rheolau newydd ar wahardd rhai menywod trawsryweddol o garchardai merched yn dod i rym

Fe fydd rheolau newydd sy’n gwahardd rhai merched trawsryweddol o garchardai merched yng Nghymru a Lloegr yn cael eu hymestyn ddydd Llun.
Mae'r Ysgrifennydd Cyfiawnder Dominic Raab wedi cadarnhau y bydd y mesurau a gyhoeddodd ym mis Hydref sy’n effeithio ar fenywod traws sydd ag organau cenhedlu gwrywaidd neu sydd wedi cyflawni troseddau rhyw yn dod i rym yr wythnos hon.
Fe gyhoeddodd ddydd Sul ei fod hefyd wedi diweddaru’r polisi i gynnwys merched trawsryweddol a gafwyd yn euog o droseddau treisgar fel rhan o’r gwaharddiad.
Daw’r mesur ychwanegol ar ôl y dadlau yn yr Alban ynglŷn â Isla Bryson, dynes drawsryweddol a gafwyd yn euog o dreisio dwy ddynes cyn trosglwyddo o fod yn ddyn o’r enw Adam Graham.
Cafwyd y treisiwr 31 oed yn euog ddiwedd mis Ionawr. Aethpwyd ag Isla Bryson i Cornton Vale - yr unig garchar i fenywod yn yr Alban - i aros am ddedfryd mewn cell ar wahan.
Yn dilyn protest gan y cyhoedd a gwleidyddion, symudwyd Bryson i garchar dynion o fewn dyddiau a chomisiynwyd adolygiad brys gan Ysgrifennydd Cyfiawnder yr Alban Keith Brown.