Cynyddu oedran cyfreithlon priodi i 18 oed

Fe fydd oedran cyfreithlon priodi yng Nghymru a Lloegr yn codi i 18 oed ddydd Llun.
Mae’n golygu na fydd pobl ifanc 16 a 17 oed bellach yn cael priodi neu fynd i mewn i bartneriaeth sifil, hyd yn oed os oes ganddynt ganiatâd rhiant.
Bellach mae hi’n anghyfreithlon ac yn drosedd i ecsbloetio plant drwy drefnu iddynt briodi, o dan unrhyw amgylchiadau o ganlyniad i Deddf Priodasau a Phartneriaethau Sifil (Isafswm Oed) 2022.
Bydd y newid yn mynd i’r afael â phriodasau dan orfodaeth a all achosi niwed parhaol i blentyn ac mae’n rhan o ymrwymiad Llywodraeth y DU i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched.
Fe all unrhyw un sydd yn euog o drefnu priodasau plant wynebu dedfrydau o hyd at saith mlynedd o garchar.
Mae 18 oed yn cael ei gydnabod yn eang fel yr oedran pan fydd rhywun yn dod yn oedolyn ac yn ennill hawliau dinasyddiaeth llawn.
'Amddiffyn pobl ifanc'
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, yr Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, Dominic Raab AS: “Bydd y gyfraith hon yn amddiffyn pobl ifanc agored i niwed yn well, trwy fynd i’r afael â phriodas dan orfod yn ein cymdeithas.
“Bydd y rhai sy’n gweithredu i drin plant i briodi dan oed nawr yn gwbl haeddiannol yn wynebu holl rym y gyfraith.”
Cyflwynwyd y newid drwy Fesur Aelod Preifat a gyflwynwyd i’r Senedd gan Pauline Latham OBE AS ac fe’i cefnogwyd gan sefydliadau ymgyrchu o fewn y Girls Not Brides Coalition, sy’n gweithio i roi terfyn ar briodas plant a cham-drin ar sail ‘anrhydedd’.
Dywedodd Pauline Latham AS: “Mae hwn yn ddiwrnod nodedig i’r ymgyrchwyr sydd wedi gweithio’n ddiflino ers dros pum mlynedd i wahardd priodas plant yn y wlad hon.
“Mae priodas plant yn dinistrio bywydau a thrwy’r ddeddfwriaeth hon byddwn yn amddiffyn miliynau o fechgyn a merched dros y blynyddoedd nesaf rhag y pla hwn.”
Dywedodd y Gweinidog Diogelu, Sarah Dines AS: “Mae priodas dan orfod yn gamddefnydd o hawliau dynol sy’n gwadu rhyddid i blant bregus ddysgu, tyfu a ffynnu. Fel pob math arall o gamdriniaeth, rydw i wedi ymrwymo i ddileu’r arfer ecsbloetio hwn.
“Yn ogystal â’r ddeddfwriaeth newydd hon sydd i’w chroesawu, rydym hefyd yn parhau i ddarparu hyfforddiant ac arweiniad i arfogi’r heddlu, gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol rheng flaen eraill i gefnogi a diogelu dioddefwyr.”