Cais i ddymchwel meddygfa er mwyn adeiladu cartrefi i bobl hŷn ym Mhorthmadog

Fe fydd cynllun i ddymchwel meddygfa i ddarparu cartrefi i bobl dros 55 oed ym Mhorthmadog yn cael ei ystyried gan Gyngor Gwynedd.
Mae'r Cyngor wedi derbyn cais i ddymchwel adeilad meddygfa Madog yn y dref.
Bwriad y cynllun yw ailddatblygu'r safle ar gyfer wyth fflat byw'n annibynnol, gan gynnwys dau dŷ fforddiadwy, gyda gwasanaethau gofal ychwanegol.
Os bydd y cynllun yn cael ei ganiatáu, fe allai’r prosiect greu saith swydd llawn amser ac un swydd ran amser yn ôl datblygwyr.
Mae'r adeilad presennol, medd y cynlluniau, yn cael ei ddefnyddio fel rhan o Feddygfa Madog - ond mae gan y feddygfa safle ychwanegol ar draws y ffordd ar y brif stryd fawr.
“Felly, ni fydd dymchwel yr adeilad hwn yn cael effaith negyddol ar ddarpariaethau Meddygfa Madog ar gyfer cymuned Porthmadog,” medd y cais cynllunio.
“Yn syml, bydd y gwasanaethau’n symud i adeilad presennol y maent yn ei feddiannu.”
Bydd yr adeilad arfaethedig yn fwy na'r hyn sydd yno ar hyn o bryd o ran maint, ond fe fyddai'n cael ei adeiladu ar y plot presennol.
Bydd lle hefyd i therapydd galwedigaethol a ffisiotherapydd ei ddefnyddio ar gyfer eu gwaith.
Mae'r cais wedi ei wneud gan Meddyg Care Group Holdings Ltd ac yn disgrifio safle 770.63 metr sgwâr wedi'i leoli yng Nghanolfan Iechyd Porthmadog, oddi ar y Stryd Fawr.
Byddai modd cael mynediad i'r safle ar hyd ffordd oddi ar y Stryd Fawr ger archfarchnad Tesco.
Prif lun: Argraff artist o'r adeilad newydd, o'r cais cynllunio