Newyddion S4C

Protocol Gogledd Iwerddon: Rishi Sunak i gyfarfod Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd ddydd Llun

26/02/2023
Leyden Sunak

Fe fydd Rishi Sunak yn cynnal trafodaethau wyneb yn wyneb yn y DU gyda Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd ddydd Llun, wrth iddo geisio dod i gytundeb terfynol i ddatrys problemau gyda Phrotocol Gogledd Iwerddon.

Mewn datganiad ar y cyd ddydd Sul gan Downing Street a’r Comisiwn Ewropeaidd, fe wnaethon nhw gadarnhau y byddai’r Prif Weinidog ac Ursula von der Leyen yn cyfarfod i drafod yr “ystod o heriau cymhleth o amgylch” cytundeb Brexit.

Dywedodd Rishi Sunak ddydd Sul ei fod yn “gwneud popeth” y penwythnos hwn i sicrhau cytundeb Brexit newydd i Ogledd Iwerddon.

Mae’r dirprwy brif weinidog Dominic Raab wedi awgrymu y gallai cytundeb ar Brotocol Gogledd Iwerddon gael ei gyflawni o fewn “dyddiau, nid wythnosau”.

Wrth siarad â rhaglen 'Sophy Ridge On Sunday' ar Sky News, dywedodd Mr Raab: “Rydym yn amlwg wedi gwneud rhywfaint o gynnydd yn ystod yr wythnosau a’r dyddiau diwethaf, ac mae’n bwysig iawn trwsio hyn.”

Pan ofynnwyd iddo os bydai cytundeb ddydd Llun, atebodd gweinidog y Cabinet: “Rwy’n credu bod cynnydd gwirioneddol.

“Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod y darnau i gyd yn eu lle.

“Ond rwy’n meddwl, gobeithio, y bydd newyddion da mewn ychydig ddyddiau, nid wythnosau.”

Dywedodd arweinydd Iwerddon, Leo Varadkar,  fod cytundeb newydd yn “agos iawn.”

Dywedodd y gallai cytundeb ar y protocol ddod o fewn dyddiau ond bod gan wleidyddion ar y ddwy ochr fwlch i'w gau o hyd.

Mae trafodaethau rhwng y DU a’r UE i ddatrys problemau gyda’r trefniadau masnachu ar ôl Brexit wedi bod yn digwydd ers peth amser.

Mae ffynhonnell Rhif 10 wedi disgrifio'r trafodaethau fel rhai cadarnhaol.

Mae Mr Sunak yn awyddus i sicrhau bod y Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd (DUP) yn cyd-fynd â’i gytundeb terfynol.

'Ar fin dod i ben'

Mae Syr Jeffrey Donaldson o'r DUP wedi mynnu gweithredu ar y protocol cyn i’w blaid ail-ymuno â llywodraeth ddatganoledig yn Stormont.

Mae’r blaid wedi cyhoeddi saith prawf y bydd yn rhaid i gytundeb Mr Sunak eu bodloni er mwyn ennill ei chefnogaeth, gan gynnwys mynd i’r afael â’r hyn y mae’n ei alw’n “ddiffyg democrataidd”.

Wrth siarad yn Galway ddydd Sadwrn, dywedodd Mr Varadkar ei fod yn ofalus ynglŷn â dweud unrhyw beth a allai beryglu'r broses, ond nododd ei fod yn credu bod posibilrwydd o gytundeb yn ystod y dyddiau nesaf.

“Yn sicr nid yw’r cytundeb wedi’i wneud eto,” meddai Mr Varadkar.

“Ond rwy’n meddwl ein bod ni ar fin dod i ben ac rydw i wir eisiau diolch i Lywodraeth y DU a’r Comisiwn Ewropeaidd a phleidiau Gogledd Iwerddon am lefel yr ymgysylltiad y maen nhw wedi’i wneud yn ystod y misoedd diwethaf i’n cyrraedd ni.

“Byddwn yn annog pawb i fynd yr ail filltir i ddod i gytundeb oherwydd mae’r manteision yn enfawr.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.