
Caerdydd yn dangos cefnogaeth i Wcráin mewn gwylnos

Daeth pobl at ei gilydd i ddangos eu cefnogaeth i Wcráin ddydd Sadwrn yng nghanol dinas Caerdydd.
Roedd tua 50 o bobl wedi ymgynnull i gofio'r rheiny sydd wedi marw o ganlyniad i'r ymladd yn y wlad dros y 12 mis diwethaf.

Cafodd baneri'r wlad eu chwifio ac roedd pobl yn gweiddi 'Slava Ukraini’, sef saliwt cenedlaethol y wlad sy’n golygu ‘Gogoniant i Wcráin.
Ddydd Gwener, roedd hi'n flwyddyn i'r diwrnod ers i'r rhyfel yno ddechrau.

Roedd y digwyddiad yn y brifddinas yn un o nifer o ddigwyddiadau sydd wedi digwydd ar draws Cymru i gydymdeimlo a dangos cefnogaeth i'r wlad.
Mae tua 6400 o Wcrainiaid wedi cael lloches yng Nghymru yn ôl Llywodraeth Cymru, a hynny o’r wyth miliwn sydd, yn ôl y Cenhedloedd Unedig, wedi ffoi o Wcráin ers dechrau’r rhyfel.
