Daeargryn yn taro rhannau o'r de nos Wener
Daeargryn yn taro rhannau o'r de nos Wener

Fe brofodd rhannau o dde Cymru ddaeargryn bychan nos Wener.
Digwyddodd y daeargryn am 23:59 ac yn ôl Arolwg Daearegol Prydain, roedd yn mesur 3.7 ar y raddfa Richter.
Roedd canolbwynt y digwyddiad ym Mrynmawr ym Mlaenau Gwent.
Caiff daeargrynfeydd ar y raddfa Richter rhwng 3.0 a 3.9 eu disgrifio fel rhai sydd yn cael eu teimlo gan bobl ac fe allai ysgwyd gwrthrychau mewn tai, ond nid ydynt yn achosi difrod sylweddol.
Nid oes adroddiadau fod neb wedi eu hanafu, ond fe gafodd effeithiau'r daeargryn ei deimlo hyd at 30 milltir i ffwrdd o'i ganolbwynt mewn ardaloedd yn cynnwys Caerdydd, Crucywel a chymoedd y de.
Ar gyfryngau cymdeithasol mae nifer o bobl yr ardal wedi bod yn disgrifio'r profiad o gael eu deffro gan y daeargryn.
Dywedodd Sian Harding o Rymni ei bod wedi clywed “clec uchel, roeddwn bron a disgyn i gysgu ac yn meddwl ein bod yn cael ein lladrata.”
Dywedodd person arall ar Facebook bod “y tŷ wedi ysgwyd yn ganol y nos, doedd dim syniad gyda fi beth oedd yn mynd ymlaen.”
Ar Twitter dywedodd Helen Caswell, “fe wnaeth y tŷ gyfan ysgwyd yn Rasa, Glyn Ebwy a deffro fy ngŵr! Roedd wedi codi ofn arnom ni."
Mae'n fflat i ar y 4ydd llawr. Y gwely wirioneddol di'n ysgwyd i'n effro #daeargryn #earthquakeinwales pic.twitter.com/ZxdQgxDJ0H
— Dylan Wyn 🏴🇺🇦🇪🇺 #Rejoin (@DylWynWil) February 25, 2023
BGS has received reports from residents throughout the region, mainly from within around 40km of the epicentre. Reports described "the whole house was shaking", "the rumbling and the bang woke me up", "my bed seemed to move side to side", "was like a large explosion".
— British Geological Survey (@BritGeoSurvey) February 25, 2023