Cynnig miloedd o docynnau Eurovision i bobol o Wcráin
Bydd miloedd o docynnau ar gyfer cystadleuaeth Eurovision yn cael eu rhoi i bobol sydd wedi ffoi i'r Deyrnas Unedig o'r rhyfel yn Wcráin.
Bydd y sioe gerddoriaeth ryngwladol yn cael ei chynnal yn M&S Bank Arena Lerpwl ym mis Mai.
Cafodd y ddinas ei dewis i gynnal y sioe ar ran Wcráin, a enillodd Eurovision 2022, yn dilyn ymosodiad Rwsia.
Bydd 3,000 o docynnau ar gael i bobol sydd wedi gadael Wcráin fel eu bod nhw’n gallu mynd i’r sioe.
“Mae ymosodiad Putin ar Wcráin yn golygu na fydd cynnal y sioe yn y wlad lle y dylid ei chynnal,” meddai'r Ysgrifennydd Diwylliant Lucy Frazer.
“Ond mae’n fraint cael cefnogi'r BBC a Lerpwl wrth gynnal y gystadleuaeth ar eu rhan nhw, ac rydan ni’n benderfynol o sicrhau mai pobol Wcráin sydd wrth galon y digwyddiad.”
Bydd y ffeinal yn cael ei gynnal ar Mai 13 ond bydd tocynnau ar gael ar gyfer y rowndiau cynderfynol hefyd.