Crys Gareth Edwards yn torri record byd mewn arwerthiant

Mae'r crys yr oedd Gareth Edwards yn ei wisgo pan sgoriodd y 'cais gorau yn y byd' wedi torri'r record ar gyfer y pris uchaf am grys rygbi.
Mae'r crys Barbariaid wedi'i werthu mewn ocsiwn am £240,000, gan drechu'r record flaenorol o dros £50,000.
Roedd Edwards yn gwisgo'r crys wrth chwarae yn erbyn Seland Newydd yn 1973 pan sgoriodd y cais, sydd dal yn cael ei ystyried fel un o'r gorau erioed.
Cafodd y bêl ei phasio trwy ddwylo sawl chwaraewr mawr yn hanes rygbi Cymru, gan gynnwys Phil Bennett a J.J. Williams, wrth i'r Barbariaid dorri trwy amddiffyn y Crysau Duon i alluogi Edwards i sgorio yn y gornel.
Dywedodd yr arwerthwyr Rogers Jones cyn yr ocsiwn yng Nghaerdydd eu bod yn gobeithio derbyn rhwng £150,000 a £200,000 am y crys.
Ond mae'r crys wedi chwalu disgwyliadau, gan drechu'r record flaenorol ar gyfer crys rygbi, sef £180,000, yn hawdd.