Newyddion S4C

Dyn yn aros am lawdriniaeth ‘frys’ ar ei glun am chwe blynedd

ITV Cymru 24/02/2023
Paul Smith

Mae dyn o Gastell-nedd wedi rhannu ei rwystredigaeth wedi iddo aros am chwe blynedd am lawdriniaeth i gael clun newydd.

Cafodd Paul Smith ei gyfeirio am lawdriniaeth yn Rhagfyr 2016 - ac mae'n dal i aros.

Dywedodd wrth ITV Cymru ei fod yn teimlo “rhwystredigaeth llwyr.

“Dw i’n teimlo’n hollol ddiwerth ar adegau.”

Ychwanegodd ei fod yn defnyddio hiwmor i ymdopi gyda’r sefyllfa gan ddweud “os ydych chi’n chwerthin, ni allwch fod yn crio.”

Mae Mr Smith yn derbyn llythyrau yn aml gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe fel rhan o’u hymdrechion i adolygu’r rhestr aros am lawdriniaeth orthopedig.

Mae’r llythyrau yn cynnwys arolygon sydd yn holi cleifion am eu cyflwr ac yn gofyn os ydynt yn dal eisiau derbyn llawdriniaeth.

'Ar frys'

Wrth drafod ei rwystredigaeth, mae Paul yn dweud ei fod yn “dal eisiau’r llawdriniaeth ar frys”.

“Os oeddwn i angen y llawdriniaeth tair blynedd yn ôl, fedrwch chi ddychmygu sut dw i’n teimlo nawr.”

Mae ffigyrau diweddaraf y GIG yn dangos bod amcangyfrif o 577, 400 o gleifion ar restrau aros am driniaeth ar draws Cymru ym mis Tachwedd 2022.

Yn 2019, daeth Mr Smith yn agos at gael llawdriniaeth, ond ar ddiwrnod yr apwyntiad edrychodd yr ymgynghorydd ar ei belydrau-x a chanfod bod ei glun arall mewn cyflwr gwaeth. Felly fe wnaeth yr ysbyty drin y glun honno gan ddweud y byddai'n cael dychwelyd i gael llawdriniaeth ar ei glun arall cyn gynted ag y byddai'n gwella.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ei bod yn cydnabod bod amseroedd aros am lawdriniaeth orthopedig “yn hirach o lawer nag y mae unrhyw un eisiau”.

Fel rhan o gynlluniau'r bwrdd i ddelio gyda’r rhestrau aros, bydd tair theatr newydd ar gyfer llawdriniaeth orthopedig ac asgwrn cefn yn agor yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ym mis Mehefin gyda’r nod na fydd neb yn aros mwy na dwy flynedd am driniaeth erbyn Ebrill 2024.

Mewn ymateb i’r ffigurau amseroedd aros diweddaraf, esboniodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Ym mis Ebrill y llynedd fe wnaethom ni osod targed i ddileu nifer y cleifion sy’n aros am fwy na blwyddyn am eu hapwyntiad allanol cyntaf erbyn diwedd 2022. Roeddem ni’n yn gwybod y byddai hyn yn heriol, ond roeddem ni eisiau i fyrddau iechyd ganolbwyntio ar hyn yn fawr.

"Rydym yn siomedig nad yw'r targed uchelgeisiol hwn, na chafodd ei osod yn Lloegr, wedi'i gyrraedd. Byddwn ni’n parhau i bwyso ar fyrddau iechyd i ganolbwyntio ar y rheiny sydd yn aros am yr hiraf, ar ôl achosion brys wedi cael eu trin."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.