Rhybudd am brinder cennin ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi

Mae rhybudd y bydd diffyg cennin ar gael ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi wrth i'r llysiau fynd yn brin.
Mae archfarchnadoedd fel Tesco ac Aldi eisoes wedi cyfyngu ar werthiant tomatos a llysiau a ffrwythau eraill o ganlyniad i ddiffyg argaeledd.
Mae tywydd poeth a diffyg glaw ac yna cyfnod o dywydd oer iawn yn y Deyrnas Unedig yn cael ei feio gan ffermwyr a gwleidyddion am brinder y llysiau sydd ar gael.
Mae ffermwyr cennin bellach yn rhybuddio efallai y bydd prinder cennin ar Ddydd Gŵyl Dewi ar gyfer gwneud cawl a phrydau bwyd traddodiadol eraill.
Lle mae cennin ar gael, efallai y bydd yn rhai i archfarchnadoedd ddibynnu ar rai wedi eu mewnforio, medden nhw.
'Mewnforio'
Dywedodd Tim Casey, cadeirydd Y Gymdeithas Tyfwyr Cennin: “Mae ffermwyr cennin yn wynebu’r tymor anoddaf erioed oherwydd y tywydd.
“Mae cnwd ein haelodau wedi crebachu tua 15% i 30% eleni.
“Mi’r ydan ni’n rhagweld y bydd ein cyflenwad o gennin Prydeinig ar ben erbyn mid Ebrill a ni fydd unrhyw gennin Prydeinig yn y siopau yn ystod mis Mai a Mehefin.
“Bydd rhaid i gwsmeriaid ddibynnu ar gnydau wedi eu mewnforio.”
Mae hanes y genhinen fel arwyddlun i’r Cymry yn mynd yn ôl i droad y 5bumed ganrif.
Yn ôl yr hanes, gwisgodd y Cymry gennin ar eu helmedau cyn brwydr fawr oedd ar fin digwydd rhyngddynt â’r Sacsoniaid.