Gorchymyn ysbyty am gyfnod amhenodol i ddyn o Wynedd am ddynladdiad ei dad

Mae dyn o Wynedd wedi derbyn gorchymyn ysbyty amhenodol am ddynladdiad ei dad ym Minffordd ger Porthmadog yn 2021.
Roedd gan Tony Thomas, 45, hanes hir o broblemau iechyd meddwl ac fe ddaeth rheithgor i’r casgliad ym mis Ionawr ei fod yn euog o ddynladdiad pan nad oedd yn ei iawn bwyll.
Bu farw ei dad Dafydd Thomas - gŵr busnes 65 oed - wedi i Tony Thomas ymosod arno ym mis Mawrth 2021, gan achosi “anafiadau catastroffig i’w wyneb’’ drwy gicio a sathru arno.
Wrth ddedfrydu Thomas yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener, dywedodd y barnwr ei fod yn parhau i fod yn “droseddwr peryglus”, ond bod ei hanes o salwch meddwl yn golygu nad oedd yn ei iawn bwyll.
Fe gyflwynodd orchymyn i gadw Tony Thomas yn yr ysbyty am gyfnod amhenodol.
Bydd Thomas ond yn cael ei ryddhau wedi i’w achos gael ei adolygu gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, a dim ond pan fod sicrwydd na fyddai'n fygythiad pellach i’r cyhoedd.