16 mlynedd yn rhagor o garchar i Harvey Weinstein am droseddau rhyw

Mae'r cyn-gynhyrchydd ffilmiau Hollywood, Harvey Weinstein, wedi ei ddedfrydu mewn llys yn Los Angeles i 16 mlynedd o garchar am dreisio ac ymosod yn rhywiol.
Roedd wedi ei gael yn euog o dreisio, ymosod yn rhywiol ac amryw o droseddau eraill yn erbyn menyw oedd yn cael ei hadnabod fel Jane Doe One yn dilyn achos llys ym mis Rhagfyr.
Roedd wedi ei garcharu yn barod am 23 o flynyddoedd yn dilyn achos arall yn ei erbyn yn Efrog Newydd.
Fe ymddangosodd Weinstein yn y llys ddydd Iau ar gyfer y ddedfryd, gan ddadlau ei fod yn ddieuog pan gafodd y dyfarniad ei gyhoeddi.
"Eich Anrhydedd... rwyf yn parhau i ddweud fy mod yn ddieuog", meddai wrth y barnwr.
“Ni wnes i erioed dreisio nag ymosod ar Jane Doe One yn rhywiol. Dydw i ddim yn adnabod y fenyw yna a dydy hi ddim yn fy adnabod i."
Ychwanegodd mai stori ffug oedd y cyhuddiadau yn ei erbyn.
"Peidiwch â'm dedfrydu i oes i garchar. Nid wyf yn ei haeddu. Rwyf yn gofyn am eich tosturi."
Mewn datganiad dioddefwr gafodd ei ddarllen i’r llys, dywedodd Jane Doe One fod gweithredoedd “hunanol a ffiaidd” Weinstein wedi ei thorri'n “filiwn o ddarnau".
Wrth ddiolch i’r Barnwr Lench am adael iddi siarad, dywedodd y ddynes: “Rwyf wedi bod yn cario’r pwysau yma ers 12 mis.
“Cyn y noson honno roeddwn yn ddynes hapus a hyderus iawn. Roeddwn i'n gwerthfawrogi fy hun a'r berthynas oedd gen i gyda Duw. Roeddwn yn gyffrous am fy nyfodol.
“Newidiodd popeth ar ôl i’r diffynnydd ymosod yn greulon arnaf. Fe ddes i'n anweledig i mi fy hun ac i'r byd … collais fy hunaniaeth.
“Mae wedi fy chwalu’n filiwn o ddarnau… does dim dedfryd o garchar yn ddigon hir i ddadwneud y difrod.”