Ryan Reynolds a Rob McElhenney i chwarae i dîm saith bob ochr Wrecsam

Bydd Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn chwarae dros Wrecsam mewn cystadleuaeth saith bob ochr yn ystod yr haf.
Bydd cyd-berchnogion y Dreigiau yn cynrychioli’r clwb mewn twrnamaint sy’n cael ei gynnal yn yr Unol Daleithiau.
Bydd Reynolds a McElhenney yn chwarae gyda chwaraewr-hyfforddwr y tîm David Jones, a cyn chwaraewyr Wrecsam, Paul Rutherford, Shaun Pearson a Mark Carrington.
Mi fydd tîm Wrecsam yn un o 32 tîm fydd yn cystadlu yn y twrnament yn North Carolina ym mis Mehefin, gyda’r enillwyr yn hawlio gwobr o $1 miliwn (£831,000).
Ymysg eu gwrthwynebwyr bydd tîm sydd yn cynnwys cyn chwaraewr Tottenham a'r UDA, Clint Dempsey, tîm Hashtag United sydd â dilyniant YouTube enfawr, a thîm o gyn chwaraewyr rhyngwladol tîm Merched yr UDA.