Newyddion S4C

refugee wcrain

Croeso cynnes Cymru wedi 'rhoi nerth' i ffoaduriaid o Wcráin

Newyddion S4C 23/02/2023

Mae cymorth a chroeso cynnes Cymru i Wcrainiaid “wedi rhoi nerth i’r bobl”, yn ôl myfyrwraig o Wcráin yn Llanbedr Pont Steffan.

Fe ddaeth Anastasiia Patiuk, 22 a Valeriia Piven, 24 o Kiyv i gampws y brifysgol yno fis Hydref y llynedd.

Fe ddaeth y ddwy i orllewin Cymru i astudio ar ôl derbyn ysgoloriaeth gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i ddilyn cwrs ôl-radd mewn dinasyddiaeth byd eang ac arweinyddiaeth.

Blwyddyn ers dechrau’r rhyfel yn Wcráin, mae deuddeg mis yn ôl yn teimlo fel byd arall i Anastasiia.

“Mae blwyddyn dwetha’n teimlo fel bywyd arall imi, ma’r flwyddyn ddiwethaf wedi gwahanu fy mywyd i gyn ac ar ôl (y rhyfel).”

Mae’r cymorth mae Cymru wedi rhoi i Wcrainiaid “wedi rhoi nerth i’r bobl” yn ôl Anastasiia, sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg ers cyrraedd pedwar mis yn ôl.

“Dwi’n dysgu Cymraeg. Dwi eisiau dweud diolch wrth (bobl) Cymraeg. Mae beth rydych chi’n neud mor bwysig ac yn helpu ni i aros yn gryf felly diolch yn fawr.”

Er bod y ddau yn mwynhau eu hastudiaethau, anodd yw anghofio am deulu a ffrindiau adref. Mae cariad Anastasiia yn ddoctor ar y llinellau blaen yng nghanol y brwydro.

“Mae’n gryf ac yn ddewr iawn, mae’n ysbrydoli fi’n fawr iawn.

“Dwi’n teimlo cariad a diolchgarwch tuag at fy nheulu, fy nghariad, pawb ar y rheng flaen.”

Image
milwyr Wcrain

Mae poeni am ddiogelwch am deulu a pherthnasau yn brofiad sydd bellach yn gyfarwydd. Ond i Valeriia, mae derbyn negeseuon neu alwadau ffôn o Wcráin yn dweud eu bod yn ddiogel yn galondid mawr.

“Maen nhw fel arfer yn clywed synau seirens. Erbyn hyn maen nhw’n gallu gwahaniaethu rhwng taflegrau ac awyrennau.

“Yn ddiweddar maen nhw wedi cael problemau gyda thrydan fel dinasoedd eraill yn Wcráin.

Dwi’n meddwl fy mod yn teimlo’u cryfder nhw. A phryd dwi’n clywed eu bod nhw’n gryf dwi’n teimlo llawer mwy hyderus yn fy hun, ynddo nhw a dyfodol Wcráin.”

Yn ôl Gwilym Dyfri Jones, Profost y campws, mae’n braf gweld y ddwy yn dod yn rhan o’r gymuned.

“'Ma pawb yn eu hadnabod nhw, ‘ma pawb yn gwerthfawrogi eu bod nhw yma yng nghanol y gymuned leol. 'Ma un o’r myfyrwyr yn gweithio mewn siop yn lleol, ma’r ddwy wedi derbyn interniaethau gan y brifysgol, felly ‘ma nhw wedi ymgysylltu’n llwyr ar draws y campws ac ar draws cymuned Llanbed.”

Wrth i’r brwydro barhau yn Wcráin a theuluoedd Anastasiia a Voleriia yn parhau mewn perygl, mae’r brifysgol yn cynnig cymorth i’r myfyrwyr, meddai Gwilym Dyfri Jones.

“Mae’n amlwg ‘da ni’n sensitif i’r sefyllfa gan gofio’r erchylltra yn Wcráin ar hyn o bryd. ‘da ni’n cynnig gwasanaeth cwnsela a phob math o gyfleon iddyn nhw ddatblygu yn unigolion cytbwys ac yn unigolion aeddfed yma yn Llambed.”

Mae tua 6400 o Wcrainiaid wedi cael lloches yng Nghymru yn ôl Llywodraeth Cymru – hynny o’r wyth miliwn sydd, yn ôl y Cenhedloedd Unedig, wedi ffoi o Wcráin ers dechrau’r rhyfel.

Un wnaeth ffoi o ardal Lviv oedd cantores opera Khrystyna Makar a’i meibion. Maen nhw bellach yn byw yn Aberystwyth.

“Pan ddaeth y rhyfel roeddwn ni’n ofnus iawn. Doeddwn i byth wedi profi’r fath emosiwn neu deimlad. Wnaethon ni fyw mewn rhyfel am ychydig o fisoedd a nes i’r penderfyniad i fynd a’m mhlant i le diogel.

“Ni yma nawr ond rwy’n gobeithio gallwn ni fynd adref pan mae’r rhyfel ar ben. Ni’n byw yng Nghymru ond mae’n heneidiau ni yn Wcráin.

"Ry’n ni’n credu y cawn ni fuddugoliaeth yn y rhyfel, oherwydd mae’r Gwir ar ein hochr ni, mae Duw ar ein hochr a'r byd i gyd ar ein hochr ni. Does dim ffordd arall. Ry’n ni’n amddiffyn gwledydd democrataidd Ewrop gyfan rhag Rwsia a byddwn yn ymladd hyd nes i ni ennill.”

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru “bod nodi blwyddyn o ryfel yn Wcráin yn garreg filltir drasig. Rydym yn gefnogol o bawb rydym wedi croesawi dros y flwyddyn ddiwethaf, pobl o Wcráin sydd wedi galw Cymru yn adref, a rheini sydd yn brwydro yn Wcráin. Mae pobl Cymru wedi dangos eu bod yn bobl groesawgar, ac yn darparu cefnogaeth i bobl er gwaetha’r argyfwng costau byw.”

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.