Newyddion S4C

'Blwyddyn o boen, galar a gobaith': Nodi 12 mis ers i luoedd Rwsia ymosod ar Wcráin

24/02/2023
zelensky

Dydd Gwener fe fydd yn union flwyddyn ers i luoedd Rwsia ymosod ar Wcráin.

Tra bod y brwydro ffyrnig yn parhau yn nwyrain y wlad, mae seremonïau yn cael eu cynnal ar draws Wcráin i nodi'r garreg filltir yma 12 mis ers dechrau'r brwydro.

Mewn araith i bobl y wlad, fe wnaeth yr Arlywydd Zelensky fynnu y bydd yn gwneud popeth yn ei allu i ennill y rhyfel y flwyddyn yma, gan ddweud bod "rhaid brwydro am yfory". 

Ychwanegodd: “Roedd hon yn flwyddyn o wytnwch. Yn flwyddyn o boen. Yn flwyddyn o alar. Yn flwyddyn o obaith. Yn flwyddyn o undod.

“Y prif beth yw, fe wnaethon ni dyfalbarhau. Ni chawsom ein trechu. Ac fe wnawn ni popeth i sicrhau buddugoliaeth y flwyddyn yma."

Yn Llundain, fe wnaeth y Prif Weinidog Rishi Sunak gynnal munud o dawelwch tu allan i rif 10 Downing Street yng nghwmni llysgennad Wcráin ym Mhrydain, Vadym Prystaiko, a dwsinau o filwyr o'r wlad sydd yn derbyn hyfforddiant yn y DU.

Yng Nghaerdydd, fe wnaeth arweinydd y Blaid Lafur, Syr Kier Starmer ymuno mewn munud o dawelwch wrth ymweld â phencadlys cwmni BCB International, sydd yn cynhyrchu offer milwrol amddiffynnol. 

Mae'r Brenin Charles III hefyd wedi rhannu neges yn talu teyrnged i "ddewrder a dycnwch anhygoel" pobl y wlad.

Cafodd gwasanaethau hefyd eu cynnal yn Eglwys Gadeiriol Wcráin yn Llundain, ac yng ngwersyll milwrol Ludd yng Nghaint, ble mae milwyr o Wcrain yn derbyn hyfforddiant.

Mae gwledydd y G7 wedi ymrwymo i ddarparu rhagor o gefnogaeth ariannol i'r wlad, gan ddweud y bydd $39 biliwn o ddoleri'n cael ei roi i lywodraeth Wcráin yn 2023.

Yma yng Nghymru mae cadeiryddion holl bwyllgorau'r Senedd wedi datgan eu undod ag Wcráin. Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y cadeiryddion: "Rydym yn cadw pobl Wcráin yn ein meddyliau wrth iddynt barhau i wynebu caledi aruthrol. 

"Rydym yn cydymdeimlo’n ddwys â’r bobl hynny, yn enwedig menywod a phlant Wcráin, sydd wedi gorfod gwneud y dewis ingol o ffoi o'u cartrefi neu aros i dderbyn y gwaethaf o ymosodiadau Rwsia. 

Gyda'n gilydd, fel pwyllgorau’r Senedd, rydym wedi trafod a chodi materion sy'n ymwneud â chymorth i Wcráin yn ein gwaith ers i’r ymosodiad ddechrau, a byddwn yn parhau i wneud hynny."

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "Cymru wedi sefyll ochr yn ochr â phobl Wcráin."

Dywedodd Prif Weinidog Yr Alban, Nicola Sturgeon, fod "dioddefaint Wcráin yn dorcalonnus, ond mae ei dewrder yn parhau i ysbrydoli."

Rhybuddion

Er fod rhybuddion wedi bod am fwriad y Kremlin i ymosod ym mis Chwefror y llynedd, fe wnaeth Rwsia synnu'r byd pan benderfynodd Vladimir Putin anfon milwyr i Wcráin ar gyfer ei "genhadaeth filwrol arbennig."

O fewn rhai dyddiau roedd yn edrych yn debygol y byddai ei luoedd yn cipio Kyiv, ond roedd gwrthwynebiad Wcráin yn llawer iawn cryfach na'r hyn yr oedd Putin wedi ei ddisgwyl.

Bron i fis wedyn roedd lluoedd Rwsia yn meddiannu tua chwarter o dir Wcráin, gyda'u nod o oresgyn y wlad yn llwyr wedi methu.

12 mis gwaedlyd yn ddiweddarach ac mae'r brwydro yno'n parhau, gyda degau o filoedd o bobl gyffredin y wlad wedi marw yn yr ymladd.

Ymateb y Gorllewin

Yn dilyn ymosodiad lluoedd Rwsia 12 mis yn ôl, roedd gwledydd y Gorllewin yn gyflym i gondemnio gweithredoedd Putin.

Gosodwyd sancsiynau economaidd ar Rwsia, yn y gobaith y byddai hyn yn effeithio ar allu Rwsia i ariannu'r rhyfel.

Image
Donetsk
Y brwydro yn Donteks ym misoedd cyntaf y rhyfel. Llun: mannhai/Flickr

Cafodd rhanbarthau Donetsk a Luhansk, oedd wedi eu meddiannu gan Rwsia, eu cydnabod fel "taleithiau annibynnol" gan y Kremlin, mewn ymgais i hawlio tiriogaeth oedd yn ei meddiant.

Derbyniodd Wcráin gefnogaeth gan wledydd ar draws y byd, gyda chymorth yn cael ei dderbyn trwy arfau, nwyddau meddygol a hyd yn oed unigolion yn teithio i'r wlad i ymladd yno.

Cipio Kyiv

Wedi deufis o frwydro, daeth i'r amlwg nad oedd gan Rwsia'r adnoddau na'r lluoedd i gipio Kyiv.

Roedd lluoedd Rwsia wedi gorfod encilio ar ôl ymladd ffyrnig, gan adael bron i bob darn o dir yr oeddynt wedi ei feddiannu i gyfeiriad y gogledd o'r brifddinas.

Wrth i luoedd Wcráin feddiannu'r tir gafodd ei adael gan filwyr Rwsia, daeth erchyllterau i'r amlwg gan gynnwys dod o hyd i fedd mawr oedd yn cynnwys cannoedd o bobl gyffredinyn nhref Bucha.

Taflegrau o America

Erbyn mis Gorffennaf, roedd ffocws Rwsia wedi symud oddi ar gipio Kyiv i geisio goresgyn dwyrain y wlad.

Roedd hyn wedi golygu newid mewn tactegau gan y ddwy wlad, wrth i daflegrau ddod yn rhan ganolog o'r brwydro ar wastadeddau'r wlad.

Image
taflegrau
Fe wnaeth yr UDA ddarparu taflegrau fel HIMARS i Wcráin wrth i natur y brwydro newid. Llun: Wikimedia commons 

Daeth i'r amlwg yn y cyfnod hwn bod Rwsia yn dioddef o ddiffyg dynion ag arfau, a dechreuodd Wcráin gymryd rheolaeth o'r rhyfel.

Trobwynt

Daeth prif drobwynt y rhyfel hyd yma ym mis Medi pan y gwnaeth lluoedd Wcráin wrthymosod yng ngogledd ddwyrain y wlad, gan ennill miloedd o filltiroedd sgwâr o dir yn ôl dan eu rheolaeth.

Bellach, roedd Rwsia yn ymladd i gadw tir, yn hytrach na brwydro er mwyn ennill tir newydd.

Erbyn diwedd yr hydref, roedd Rwsia yn wynebu'r posibilrwydd o golli'r rhyfel ac fe wnaeth Putin ymateb trwy gyflwyno gorchymyn a welodd 300,000 o ddynion yn cael eu galw i'r fyddin, yn ogystal â bygwth defnyddio arfau niwclear.

Erbyn mis Tachwedd roedd lluoedd Wcráin wedi rhyddhau ardal Kherson o afael Rwsia. 

Roedd ennill y frwydr allweddol honno yn dangos gallu milwrol Wcráin, ac yn galluogi i'r wlad i geisio llywio cyfeiriad y rhyfel.

Newid strategaeth

Yn dilyn colledion trwm, fe wnaeth Rwsia newid ei strategaeth filwrol trwy lansio ymgyrch i ddinistrio isadeiledd ynni Wcráin.

Arweiniodd hyn at f lacowt mewn nifer o ardaloedd yn Wcráin, gan adael pobl heb bŵer na dŵr.

O ganlyniad fe wnaeth Wcráin alw ar wledydd y Gorllewin i ddarparu arfau amddiffyn gwell a mwy o arfau.

Image
milwyr Wcrain
Milwyr Wcráin yn meddiannu tanc gan lluoedd Rwsia. Llun: manhhai/Flickr

Erbyn mis Ionawr, roedd Rwsia wedi ennill tir am y tro cyntaf ers misoedd trwy gipio tref fach Soledar.

Ond daeth newyddion calonogol i Wcráin wrth i'r Almaen, y DU, yr UDA a gwledydd eraill ymrwymo i anfon tanciau er mwyn cefnogi ymgyrch Wcráin ymhellach.

Flwyddyn ers dechrau'r brwydro, mae miliynau o bobl wedi cael eu heffeithio gan y rhyfel, o weld eu cartrefi yn cael eu chwalu i orfod gadael eu gwlad i ddarganfod noddfa ddiogel dramor.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.