Alun Wyn Jones, Tipuric a Faletau yn ôl yn y tîm i wynebu Lloegr
Mae Alun Wyn Jones, Justin Tipuric a Taulupe Faletau yn ôl yn y tîm i wynebu Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.
Mae Dan Biggar, George North, Liam Williams a Jac Morgan wedi eu diosg o'r 15 cyntaf, gyda Biggar ar y fainc.
Fe fydd nenfwd Stadiwm Principality ar agor ar gyfer y gêm.
Roedd Warren Gatland wedi bwriadu enwi tîm Cymru ddydd Mawrth ond methwyd a gwneud hynny oherwydd y bygythiad y gallai'r gêm gael ei chanslo oherwydd streic gan y chwaraewyr.
Bydd Cymru yn chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf yn y Chwe Gwlad ar ôl colli'n drwm yn erbyn Iwerddon a'r Alban.
Ond bydd amheuon ymysg cefnogwyr a fydd chwaraewyr Cymru wedi gallu canolbwyntio ar ymarfer yn sgil yr anghodfod.
Wrth siarad tu fas i westy'r Vale, pencadlys tîm rygbi Cymru, nos Fercher dywedodd y capten Ken Owens fod y dyddiau diwethaf wedi bod yn rhai "anodd tu hwnt."
Ond dywedodd Warren Gatland wrth gyhoeddi'r tîm mai ei neges i'r chwaraewyr oedd fod angen "tynnu llinell ar beth sydd wedi digwydd a chanolbwyntio ar y rygbi".
Y tîm
15. Leigh Halfpenny
14. Josh Adams
13. Mason Grady
12. Joe Hawkins
11. Louis Rees-Zammit
10. Owen Williams
9. Tomos Williams
1. Gareth Thomas
2. Ken Owens
3. Tomas Francis
4. Adam Beard
5. Alun Wyn Jones
6. Christ Tshiunza
7. Justin Tipuric
8. Taulupe Faletau
Eilyddion
16. Bradley Roberts
17. Rhys Carre
18. Dillon Lewis
19. Dafydd Jenkins
20. Tommy Reffell
21. Kieran Hardy
22. Dan Biggar
23. Nick Tompkins
Fe fydd y gic gyntaf am 16:45 ac fe fydd y gêm yn cael ei darlledu'n fyw ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.