Newyddion S4C

John Motson

Y sylwebydd pêl-droed John Motson wedi marw

NS4C 23/02/2023

Mae’r sylwebydd pêl-droed John Motson wedi marw yn 77 oed.

Bu Motson yn gweithio i’r BBC am dros hanner canrif, gan sylwebu ar 10 Cwpan y Byd, 10 Pencampwriaeth Ewrop a 29 Rownd Derfynol Cwpan yr FA.

Roedd y sylwebydd, a oedd yn cael ei hadnabod gan gefnogwyr fel ‘Motty’, wedi bod yn gweithio ar Match of the Day ers 1971 a sylwebodd ar dros 2,500 o gemau byw.

Sylwebodd ar ei gêm ddiwethaf i Match of the Day yn 2018.

Mae sawl ffigwr o'r byd bêl-droed wedi talu teyrnged i Motson yn dilyn y newyddion.

Mewn trydar, dywedodd Gary Lineker: "Dw i'n hynod o drist i glywed bod John Motson wedi marw. Mi oedd yn sylwebydd penigamp a llais pêl-droed yn y wlad yma ers sawl cenhedlaeth. Mi fydd golled fawr ar ei ôl. RIP Motty."

Deeply saddened to hear that John Motson has died. A quite brilliant commentator and the voice of football in this country for generations. He’ll be very much missed. RIP Motty.

— Gary Lineker 💙💛 (@GaryLineker) February 23, 2023

Mae Clwb Bêl-droed Abertawe hefyd wedi talu teyrnged, gan ddisgrifio Motson fel "cawr darlledu."

Rest in peace, John Motson ❤️

A broadcasting legend and the voice of football for so many. Our thoughts are with John's family and friends at this incredibly difficult time. https://t.co/GVBRTnG9Sc

— Swansea City AFC (@SwansOfficial) February 23, 2023

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.