Newyddion S4C

Harvey Weistein i gael ei ddedfrydu am ragor o droseddau rhyw

23/02/2023
Harvey Weinstein

Fe fydd y cyn-gynhyrchydd ffilmiau Harvey Weinstein yn cael ei ddedfrydu am ragor o droseddau yn ymwneud â threisio ac ymosodiadau rhywiol yn Los Angeles ddydd Iau.

Mae Weinstein, 70, eisoes wedi'i ddedfrydu i 23 mlynedd yn y carchar wedi i lys ei gael yn euog o dreisio ac ymosodiadau rhywiol yn Efrog Newydd yn 2020. 

Ond fe all Weinstein wynebu dedfryd o hyd at 24 mlynedd o'r newydd wedi iddo ei gael yn euog o dreisio menyw yng Nghaliffornia yn 2013. 

Cafwyd y cynhyrchydd ffilmio yn euog o dri chyhuddiad o dreisio ac ymosodiad rhywiol yn ystod achos llys ym mis Rhagfyr.

#MeToo 

Mae dros 90 o fenywod wedi cyhuddo Weinstein yn gyhoeddus o dreisio, ymosodiad neu aflonyddu rhywiol mewn cysylltiad â nifer o ddigwyddiadau yn ystod ei yrfa yn Hollywood. 

Fe wnaeth y cyhuddiadau sbarduno'r mudiad #MeToo yn 2018 a welodd nifer o fenywod yn siarad yn gyhoeddus am eu profiadau o gamdriniaeth rywiol. 

Mae Weinstein wedi pledio'n ddi-euog i bob cyhuddiad yn ei erbyn ac wedi gwadu ei fod erioed wedi gorfodi unrhyw un i gael rhyw heb gydsyniad.

Llun: Harvey Weinstein gan PA/ Ian West.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.