Newyddion S4C

Newidiadau i lyfrau Roald Dahl 'yn mynd yn rhy bell'

Newidiadau i lyfrau Roald Dahl 'yn mynd yn rhy bell'

Newyddion S4C 22/02/2023

Mae awdur a gyfieithodd rhai o lyfrau Roald Dahl i'r Gymraeg wedi dweud bod rhai o'r newidiadau dadleuol i’w waith yn “mynd yn rhy bell.”

Mae Elin Meek o Abertawe wedi cyfieithu dros 12 o lyfrau Roald Dahl i’r Gymraeg yn ystod ei gyrfa. 

Daw ei sylwadau wedi i'r cyhoeddwyr, Puffin, benderfynu yr wythnos diwethaf i olygu rhai darnau o’r llyfrau er mwyn “sicrhau bod modd i ddarllenwyr heddiw barhau i’w mwynhau.”

Ymhlith y newidiadau mae torri geiriau fel “tew” a “hyll” o’r llyfrau, yn ogystal â chael gwared a'r gair “du” i ddisgrifio clogyn y CMM a’r tractorau yn Mr Cadno Campus.

Mae'n 20 mlynedd ers i Elin Meek gyfieithu Charlie a’r Ffatri Siocled, ac mae’r newidiadau hyn gwneud iddi edrych ar y gwaith eto.

“Ma' gair yn iawn un flwyddyn ac wedyn ymhen dwy flynedd falle' ma'n air cwbl wrthun, a fydden i byth isie ei weld e mewn llyfr gyda'n enw i arno fe,” meddai.

“Fi 'di bod yn edrych nôl ar y cymeride' ma'r ansoddeire' 'ma'n cyfeirio atyn nhw ac mae'n fwy na dim ond eu hymddangosiad nhw.”

“Falle' bod Mrs Twit yn hyll ond mae hefyd yn gymeriad hyll a ma' Roald Dahl yn dweud hynny.”

Ond pe bai’r cyhoeddwyr yn gofyn iddi gyfieithu’r llyfrau Cymraeg yn unol â’r fersiynau Saesneg, mae Elin Meek yn dweud y byddai hi’n ddigon parod i wneud hynny.

'Rhyfeddol'

Un sydd wedi’i “rhyfeddu” gan y penderfyniad i newid gwaith Dahl ydy’r cyn-Fardd Plant Cymru, Anni Llyn.

Yn 2016, fe sgwennodd hi ddrama i blant wedi’i seilio ar lyfrau a bywyd Roald Dahl.

“Mi o’dd Roald Dahl yn genius,” meddai.

“O'dd o'n onest efo plant ac o'dd o'n trin y darllenwyr a'r plant o'dd yn brif gymeriadau hefyd efo parch mawr.”

“Sŵn i’n meddwl y bysa fo’n gandryll am y newidiadau diweddara ’ma. Waeth iddyn nhw jyst ail-sgwennu nhw’n gyfan gwbl a rhoi awdur arall arnyn nhw.”

Ond dywedodd llefarydd ar ran Roald Dahl Story Company sy’n eiddo ar hawlfraint y llyfrau eu bod nhw’n cytuno â’r newidiadau.

“Wrth gyhoeddi rhediadau print newydd o lyfrau a ysgrifennwyd flynyddoedd yn ôl, nid yw’n anarferol adolygu’r iaith a gafodd ei ddefnyddio,” medden nhw.

Roedd y newidiadau rheini yn cyd-fynd a newidiadau eraill fel newid “clawr llyfr a diwyg y dudalen,” medden nhw.

“Ein hegwyddor drwyddi draw fu cynnal y stori, y cymeriadau, ac ysbryd miniog y testun gwreiddiol."

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.