Canolfanau ambiwlans awyr Y Trallwng a Chaernarfon i aros ar agor am y tro

Fe fydd canolfannau ambiwlans awyr Y Trallwng a Chaernarfon yn parhau ar agor nes o leiaf 2026.
Daw hyn wrth i'r elusen Ambiwlans Awyr Cymru ddod i gytundeb newydd gyda chwmni awyrennau er mwyn cynnal eu gwasanaethau yn y ddau leoliad.
Bu gwrthwynebiad cryf y llynedd i gynlluniau i gau'r ddau safle a chreu safle newydd yn y gogledd.
Y cynllun oedd uno safleoedd Y Trallwng a Dinas Dinlle ger Caernarfon, gan gynyddu oriau gweithredu'r ganolfan newydd o 12 i 18 awr.
Ar y pryd, dywedodd Ambiwlans Awyr Cymru y bydd yr ad-drefniant yn ei alluogi i helpu mwy o bobl.
Ond wrth gadarnhau cytundeb newydd gyda Gama Aviation, fe wnaeth yr elusen gadarnhau y bydd y ddau safle yn parhau ar agor am y tro.
Mae'r elusen wedi arwyddo cytundeb gwerth £65m gyda'r cwmni awyrennau er mwyn cynnal ei wasanaethau am saith blynedd.
Fe fydd Gama yn cynnal a chadw pedwar prif hofrennydd, ac un wrth gefn, ar ran yr elusen o fis Ionawr 2024 ymlaen.
'Sicrwydd'
Wrth i gynlluniau i gau safleoedd Y Trallwng a Chaernarfon gael eu gohirio yn sgil y cytundeb newydd, fe ddywedodd prif weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru nad oedd yr ad-drefniant posib yn ymgyrch i dorri costau.
"All hynny ddim bod ymhellach o'r gwirionedd, fe fyddai'r costau'r un fath os bydden ni yn gweithredu allan o dri safle o'i gymharu â phedwar," meddai Dr Sue Barnes.
"Ein bwriad yw diogelu ein gwasanaethau ar gyfer pobl Cymru ond ar yr un pryd i chwilio ar gyfer gwelliannau yn ein gwasanaeth ac ein hargaeledd.
"Mae newidiadau posib yn sail ymgynghoriad cyhoeddus sydd wedi'i arwain gan Brif Gomisiynydd y Gwasanaethau Ambiwlans.
"Ond gyda Gama Aviation yn cymryd yr awenau yn ar 1 Ionawr, 2024, roedd rhaid gwneud penderfyniadau ymarferol.
"Wrth ystyried yr angen i ddarparu cysondeb yn ein gwasanaethau ac yn ymwybodol o'r angen i roi rywfaint o sicrwydd masnachol i landlordiaid ein canolfannau, ry'n ni wedi penderfyniad dechrau ar ein cytundeb newydd gyda'r pedwar canolfan sydd gyda ni ar hyn o bryd."
Mewn ymateb i'r newyddion, dywedodd yr Aelod Seneddol dros Ynys Môn a llefarydd Plaid Cymru ar Iechyd a Gofal, Rhun ap Iorwerth, ei fod yn "croesawu'r" penderfyniad.
"Diolch i’r holl ymgyrchwyr sydd wedi gweithio’n ddiflino i gyrraedd y pwynt hwn," meddai.
“Rwan mae’n bwysig ein bod ni’n parhau i wneud yr achos am yr angen i bedair canolfan yr elusen aros ar agor yn barhaol.
“Mae’r Ambiwlans Awyr yn golygu cymaint i bob un ohonom a byddwn yn parhau i’w gefnogi’n ariannol oherwydd ei bwysigrwydd, gan wybod ei fod yn darparu’r gwasanaeth gorau posibl i bob ardal yng Nghymru, yn enwedig ein hardaloedd gwledig sydd mor ddibynnol arno.”