Newyddion S4C

Blwyddyn ers colli tad a gŵr: Angen siarad yn 'agored a gonest' am alar

23/02/2023

Blwyddyn ers colli tad a gŵr: Angen siarad yn 'agored a gonest' am alar

Mae hi mor bwysig i siarad yn 'agored a gonest' am alar, yn ôl dynes a gollodd ei gŵr mewn damwain car ddifrifol y llynedd. 

Ar 26 Chwefror y llynedd, roedd Sean Brett o Borthaethwy yn teithio gyda'i wraig, Nicola, yn eu car ar ffordd yr A55 i ddathlu pen-blwydd Nicola yn 50 oed gyda'u ffrindiau. 

Roedd gyrrwr y cerbyd arall a oedd yn rhan o'r wrthdrawiad yn gyrru ar ochr anghywir y ffordd, ac fe wnaeth wrthdaro â char Sean a Nicola.

Bu farw Sean yn y fan a'r lle, ac fe ddioddefodd Nicola anafiadau difrifol. 

Roedd Sean yn wyneb cyfarwydd yn y byd pêl-droed yn ardal Porthaethwy a gogledd Cymru, gan fod yn gyfrifol am ffurfio tîm y Menai Bridge Tigers sydd wedi cael cryn lwyddiant ar hyd y blynyddoedd. 

Dywedodd Nicola wrth Newyddion S4C bod ei gŵr yn "amazing o ddyn, wrth ei fodd efo pobl ag yn enjoio bywyd".

"O'dd o'n cerddad mewn i sdafall ac instantly, gwên mawr ar ei wyneb o... 'nabod pawb o bob man - doedda ni'n methu mynd i nunlla, mynd i siopio bwyd ag oedd o'n cymryd tua dwy awr i fynd rownd y siop ond na, oedd genna fo amsar i bawb," meddai.

'Ddim yn teimlo'n wir'

Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn hynod o anodd i Nicola, a oedd yn wael iawn ei hun yn dilyn y gwrthdrawiad. 

"Dio dal ddim yn teimlo'n wir, ma' dal yn raw, dwi'n gwbod bod hi bron yn flwyddyn rŵan, ond dwi'n teimlo fel bod o jyst fis yn ôl," meddai. 

Ychwanegodd fod "y tŷ yn wag hebdda fo, o'dd y tŷ o blaen yn llawn bywyd, yn uchal, a wedyn wan ma'n ddistaw a methu fo bob dwrnod, dwi'n siarad efo fo bob dydd - bob dim dwi'n neud, dwi'n gofyn idda fo."

Mae'r gymuned wedi bod yn gefn mawr i Nicola a'i phlant, Noah sy'n 22 oed a Hope sy'n 18. 

Image
Noah, Nicola, Hope a Sean
Noah, Nicola, Hope a Sean.

"Pan ma' wbath fel hyn yn digwydd, ti'n sylwi faint o agos ydi'r gymuned - 'dan ni'n lwcus i fyw mewn cymuned amazing, ma' Borth (Porthaethwy) yn gartra'," meddai. 

"Ma' 'na cyn gymaint o gardia 'di dod trw'r post, allai'm coelio faint o support 'dan ni 'di gael."

Dywedodd Nicola ei bod hi'n "anodd egluro" galar. 

"Ti'm yn gwbo' be' 'dio tan ti'n mynd trwydda fo, mae'n anodd egluro fo," meddai.

"Ma'i 'di bod yn ofnadwy o anodd achos I'm a positive person, dwi'n gobeithio eniwe, a dwi isio bod yn gryf i Noah a Hope, er mwyn ffrindia a theulu. 

"Dwi isio pobl weld fi a'r kids yn cario 'mlaen gymaint ag y gallwn ni'n gallu beth bynnag."

Image
Sean Brett
Roedd Sean yn ganolog i sefydlu clwb pêl-droed y Menai Bridge Tigers ym Mhorthaethwy yn 2008.

Ychwanegodd Nicola ei bod hi mor bwysig i siarad yn "agored a gonest" am alar. 

"Dwi'n siarad amdana fo, dwi'm yn cadw dim byd i fewn - dwi'n meddwl mai'r peth gora fedri di neud ydi siarad allan a dim botlo dim byd achos os ti'n botlo, ma' petha'n mynd yn waeth a jyst bod yn agored ac yn onest."

Un o ddiddordebau pennaf Sean oedd golff, a bydd cystadleuaeth golff yn cael ei threfnu er cof amdano ym mis Mawrth - rhywbeth fyddai Sean yn falch iawn ohono, yn ôl Nicola. 

"Ma' hynna'n absolutely amazing, fysa Sean wrth ei fodd. Fydd o yna efo nhw yn chuffed to bits yn ca'l peint a rownd o golff efo nhw i gyd ar y diwrnod dwi'n siŵr achos golff oedd ei betha fo'n diwadd so fydd o'n grêt i ddod â'r gymuned at ei gilydd," meddai. 

Fe gafodd Sean ddylanwad mawr ar bêl-droed ym Mhorthaethwy a gogledd Cymru, a "rywun o'dd isio help mewn timau, o'dd Sean yna bob tro i helpu, wrth ei fodd, pêl-droed oedd ei betha fo a fysa fo'n helpu rywun."

'Methu coelio'

Er mor anodd yw’r sefyllfa, mae Nicola, Noah, a Hope, wedi bod yn gefn i'w gilydd. 

"Ma' nhw 'di bod yn ffantastig, 'dan ni 'di bod yna efo'n gilydd trw' bob dim. 

"Oedd 'Dolig yn anodd ond natho ni dal neud o'n hwyl a gatho ni jyst amsar i'r tri ohona ni efo'n gilydd a jyst meddwl am Sean - dyna be' fysa Sean isio. 

"Sean sy'n cwcio diwrnod 'Dolig fel rheol - eniwe, oedd Mam yn gorfod gneud 'doedd 'Dolig yma eniwe, 'I did him proud', medda' nhw."

Dywedodd Nicola fod yr atgofion yn cadw rhywun i fynd. 

"Big loss i pawb, dim jyst ni ond y gymuned. Dydi pobl dal methu coelio bod o ddim yma, dio ddim yn teimlo'n iawn...ddylia fo heb 'di digwydd.

"Ond mae o efo ni trw' dydd bob dydd a dwi'n meddwl amdana fo a siarad amdana fo a ma' petha jyst yn digwydd, ma'n rhyfadd, ond good memories, lot o hwyl, lot o hwyl.

"Dim byd 'mond good memories, happy memories, a ma' heina yn cadw chdi fynd 100%."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.