Newyddion S4C

Nicola Bulley

Agor cwest i farwolaeth Nicola Bulley

NS4C 22/02/2023

Mae cwest wedi'i agor i farwolaeth Nicola Bulley, ar ôl i'w chorff gael ei ddarganfod mewn afon yn Sir Gaer dros y penwythnos. 

Diflannodd y fam 45 oed ar 27 Ionawr wrth fynd â'i chi am dro ar lan afon ym mhentref St Michael's on Wyre.

Cafodd ei chorff ei ddarganfod yn Afon Wyre ddydd Sul yn dilyn ymdrech chwilio enfawr gan yr heddlu. 

Wrth agor a gohirio'r cwest i'w marwolaeth, dywedodd y crwner bod corff Ms Bulley wedi'i adnabod drwy ei chofnodion deintyddol. 

Mae disgwyl i gwest llawn i farwolaeth Ms Bulley gael ei gynnal fis Mehefin. 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.