Shamima Begum yn colli ei hapêl i ddychwelyd i'r DU

Ni fydd Shamima Begum yn dychwelyd i'r DU wedi i'w hapêl yn erbyn colli ei dinasyddiaeth Brydeinig fethu.
Fe wnaeth Ms Begum adael y DU i fynd i Syria yn ei harddegau yn 2015 er mwyn ymuno â grŵp y Wladwriaeth Islamaidd (ISIS).
Cafodd ei dinasyddiaeth ei dileu yn 2019 ar sail rhesymau yn ymwneud â diogelwch cenedlaethol, meddai Llywodraeth y DU.
Ers hynny, mae Ms Begum, sydd bellach yn 23, wedi dwyn achos cyfreithiol yn erbyn y Swyddfa Gartref er mwyn ceisio dychwelyd i'r DU.
Fe wnaeth Ms Begum ddadlau i'r Comisiwn Arbennig Apeliadau Mewnfudo (SIAC) ei bod yn "dioddefwr masnachu mewn plant".
Ond yn dilyn y gwrandawiad pum diwrnod o hyd ym mis Tachwedd y llynedd, mae'r comisiwn wedi gwrthod ei hapêl.
Yn ystod yr achos, dywedodd cyfreithiwr y Swyddfa Gartref, Syr James Eadie CB, fod gwasanaethau diogelwch yn parhau i asesu'r "risg mae Ms Begum yn peri i ddiogelwch cenedlaethol".
Wrth roi ei ddyfarniad, dywedodd y barnwr Mr Ustus Jay y bydd "pobl resymol yn anghytuno" dros amgylchiadau Ms Begum.
"Mae'r comisiwn yn cydnabod cryfder y dystiolaeth sydd wedi'i rhoi ar ran Ms Begum bod casgliad yr Ysgrifennydd Gartref ei bod wedi teithio i Syria yn wirfoddol yn digydymdeimlad.
"Fe fydd pobl resymol gyda gwybodaeth o'r holl dystiolaeth o'r achos yn anghytuno ar yr amgylchiadau, yn enwedig ynglŷn â dadleuon i ba raddau yr oedd ei thaith i Syria yn wirfoddol.
"Yn yr un modd, fe fydd pobl resymol yn anghytuno dros y risg yr oedd Ms Begum yn peri i ddiogelwch cenedlaethol y DU ym mis Chwefror 2019.
"Er hyn, o dan y setliad cyfansoddiadol mae rhaid i'r Ysgrifennydd Gartref gwneud y penderfyniadau ynglŷn â'r materion sensitif yma, nid y comisiwn."