Undeb Unite yn cyhoeddi rhagor o streiciau ambiwlans yng Nghymru

Mae disgwyl i weithwyr ambiwlans yng Nghymru gynnal rhagor o streiciau ym mis Mawrth wrth i undeb Unite rybuddio "nad oes diwedd o fewn golwg " i'r anghydfod.
Fe fydd aelodau'r undeb yn cadw draw o'u gwaith ar y 6 a 10 Mawrth wrth i'r anghydfod dros dal ac amodau gweithio barhau.
Mae’r streiciau newydd yn ychwanegol i’r tridiau o weithredu diwydiannol sydd yn cael eu cynnal yr wythnos hon.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei fod yn "siomedig" bod yr undeb wedi penderfynu cynnal rhagor o streiciau.
Fe wnaeth Unite wrthod cynnig diweddaraf y llywodraeth ar godiad cyflog yr wythnos diwethaf. Roedd y llywodraeth wedi cynnig codiad ychwanegol o 3% ar gyfer 2022/23 ar ben y codiad o 4.5% oedd eisoes wedi'i gynnig.
Dywedodd swyddog Unite ar gyfer Cymru, Richard Munn, fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru "gydnabod cryfder y teimladau ymysg yr aelodau."
"Maent yn grac ac yn benderfynol i gael cytundeb sydd yn atal rhagor o ostyngiadau mewn cyflog.
"Ar hyn o bryd, nid oes diwedd o fewn golwg ar gyfer yr anghydfod."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn aros am farn cydweithwyr undeb llafur iechyd eraill sy'n parhau i drafod ein cynnig diwygiedig o well tâl ac amodau gwaith.
"Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol."