Cyfnod hir o garchar i ddyn o Sir Gaerfyrddin am gipio a threisio merch yn ei harddegau

Mae dyn 48 oed o Lanymddyfri, Sir Gaerfyrddin wedi cael ei ddedfrydu i garchar, ar ôl iddo dreisio a chipio merch yn ei harddegau mewn ymosodiad a barodd am 12 awr
Cafodd y ferch ei chipio gan Phillip Andrew Williams, ar 2 Awst y llynedd.
Yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth, cafodd ddedfryd o 22 mlynedd o garchar, wedi'i hymestyn am wyth mlynedd ar drwydded.
Clywodd y llys iddo ddwyn ffôn y ferch, ei gorfodi i yfed alcohol a chymryd y cyffur cocên, cyn ei bygwth â sgriwdreifer a'i threisio mewn cae yn ardal Llanymddyfri.
Yna fe lusgodd y ferch i mewn i gar oedd wedi ei ddwyn, cyn gyrru i Barc Gwledig Margam ger Port Talbot.
Cafodd Williams ei ddyfarnu'n euog o saith cyhuddiad yn ei erbyn fis Ionawr, cyn cael ei ddedfrydu ddydd Mawrth.
Clywodd y llys fod y ferch wedi llwyddo i ddianc o afael Williams a chael gafael ar ei ffôn ar fore 3 Awst.
Cafodd ei darganfod gan blismyn yn ddiweddarach mewn cyflwr difrifol.
Cafodd Williams ei arestio a'i gyhuddo o fewn 36 awr.
Dywedodd yr uwch swyddog ymchwilio, y Ditectif Arolygydd Dale Thomas: " Rwy'n gobeithio fod hyn yn profi nad yw Heddlu Dyfed-Powys yn goddef troseddau arswydus fel hyn, a bod hyn yn rhoi hyder i unrhyw ddioddefwr i gysylltu â ni. "
Llun: Heddlu Dyfed-Powys