Canolfan hamdden ar gau ym Mhorthmadog wedi marwolaeth

Mae canolfan hamdden ar gau ym Mhorthmadog yn dilyn marwolaeth dyn a gafodd ei daro'n wael yno nos Lun.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ganolfan Byw'n Iach Glaslyn oddeutu 18:45.
Derbyniodd y dyn gymorth cyntaf gan weithwyr yn y ganolfan, ond bu farw'n ddiweddarach.
Mae'r ganolfan wedi cyhoeddi datganiad:
"Rydym yn cydymdeimlo â theulu a chyfeillion yr unigolyn ar yr amser trist hwn, ac yn ddiolchgar i staff y ganolfan, y gwasanaethau brys a'r Ambiwlans Awyr am eu hymateb sydyn a phroffesiynol," meddai'r neges.
Penderfynodd y ganolfan gau ei drysau ddydd Mawrth fel "arwydd o barch."
Bydd y ganolfan yn ail agor fore Mercher, ond mae'r oriau wedi eu haddasu ar gyfer gweddill yr wythnos.
Y bwriad yw agor yn ôl yr amserlen arferol, ddydd Sadwrn 25 Chwefror.