Newyddion S4C

Cyngor Sir Powys yn dymuno codi treth ar gwmnïau sy'n cymryd dŵr ac ynni ar gyfer ardaloedd eraill

Cyngor Sir Powys yn dymuno codi treth ar gwmnïau sy'n cymryd dŵr ac ynni ar gyfer ardaloedd eraill

NS4C 21/02/2023

Mae Cyngor Sir Powys yn awyddus i godi treth ar gwmnïau sy'n cymryd dŵr ac ynni o'r sir ar gyfer ardaloedd eraill, ac eisoes maen nhw wedi ysgrifennu at Lywodraethau Cymru a Phrydain yn gofyn am yr hawl i wneud hynny.

Byddai'r arian a fyddai'n cael ei godi'n cael ei wario ar warchod yr amgylchedd o fewn y Sir - ond does dim sicrwydd y caiff y cyngor ganiatâd i fwrw ymlaen – gydag un cynghorydd Ceidwadol yn dweud mai’r nod ydy creu drwgdeimlad – “friction” rhwng Cymru a Lloegr.

Fe gafodd y cynnig ei gymeradwyo mewn cyfarfod o'r Cyngor ym mis Rhagfyr, o 40 pleidlais i 19.

Mae Llywodraeth Cymru’n dweud eu bod wedi gwahodd Cyngor Powys i drafod y cynnig ymhellach ond gan ddweud y byddai angen “achos cryf iawn” i godi treth ychwanegol o’r fath.

Mae'r cynnig yn galw am dreth ar gwmnïau sy'n mynd a dŵr ac ynni i lefydd y tu allan i Bowys. Byddai'r dreth o leiaf £1 am bob mega-litr a £1 am bob mega-watt.

Ymhlith y rhai sy'n gefnogol i'r syniad, mae un o aelodau'r rhanbarth yn Senedd Cymru, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds.

"Dros y blynyddoedd mae o'n wir i ddeud .. dros ganrifoedd i ddeud y gwir ... dan ni di bod yn gweld dŵr yn mynd o Bowys, o Gymru i Loegr. Llyn Fyrnwy yn un enghraifft. Felly mae'r cynnig yma o'r Cyngor isio gwneud yn siŵr bod 'na ryw fath o compensation, rhyw fath o arian yn dod i mewn i helpu pobol yma ym Mhowys."

Image
newyddion

Nid bod pawb yn cytuno. Roedd cynghorwyr Ceidwadol yn gwrthwynebu'r cynnig i godi'r dreth. Aled Davies ydy arweinydd Grŵp Ceidwadwyr Cymru ar gyngor Powys.

"Fel Ceidwadwr dwi ddim yn hoffi gweld trethi'n mynd fyny a bydd hynny'n ychwanegu at gostau byw pobol sydd yn byw ym Mirmingham a Lerpwl ag ati. Os dach chi'n codi mwy o arian fan hyn bydd costau'n cael eu pasio i lawr i bobol sy'n byw yn Lloegr a'r amser yma efo costau byw mor uchel dyma'r peth diwethaf dan ni isio neud.

"Y cymhelliad yma ydy codi'r friction rhwng y ddwy wlad."

Image
newyddion

Dydy Cyngor Powys ddim wedi cynnig ffigwr o ran faint o arian y byddai'r trethi'n ei godi. Cannoedd o filoedd o bunnau ydy amcangyfrif Dr Eurfyl ap Gwilym, economegydd oedd yn aelod o'r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru rai blynyddoedd yn ôl.

"Mewn egwyddor mae'n beth da oherwydd dwi'n meddwl bod y rhan fwyaf o bobol yng Nghymru'n teimlo bod ni'n allforio dŵr a dylen ni gael dipyn bach o gydnabyddiaeth ariannol oherwydd hynny.

"Dach chi isio codi degau o filiynau os dach chi'n mynd i neud e, ac ar hyn o bryd mae'n gymhleth oherwydd nid dim ond y dimensiwn gwleidyddol, ond hefyd y ffaith fod y dŵr yma ym meddiant cwmnïau preifat.

Dywedwch (yn achos) y diwydiant olew, mae'r gwledydd sy'n cynhyrchu olew, dydyn nhw ddim yn cynhyrchu'r olew, mae'r olew yn y ddaear, mae cwmnïau preifat yn aml iawn, Shell, Exxon yn mynd yno i gael yr olew allan ond maen nhw'n gorfod talu treth ar hynny i'r gymuned leol."

Cwestiwn arall ydy a fyddai'r hawl gan Gyngor Powys i wneud hyn. Mae Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Gareth Ratcliffe, wedi anfon llythyr at weinidogion yn Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain yn gofyn am ganiatâd i fedru codi treth.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru “Rydym wedi gwahodd Cyngor Powys i drafod y cynnig fel rhan o’n trafodaethau rheolaidd ag awdurdodau lleol. Fodd bynnag, byddai angen cyflwyno achos cryf iawn dros osod baich ychwanegol o ran treth ar fusnesau. Mae llawer o fusnesau, gan gynnwys busnesau ynni adnewyddadwy a chyflenwyr dŵr, eisoes yn cyfrannu at gyllido gwasanaethau lleol drwy ardrethi annomestig.”

Fe ddywedodd Llywodraeth Prydain mai rhywbeth i Lywodraeth Cymru wneud sylw arno fyddai hwn, ond maen nhw'n cyfeirio at gytundeb ar y cyd rhwng y ddwy Lywodraeth gafodd ei arwyddo bron i chwe blynedd yn ôl. Mae hwnnw'n dweud na ddylai polisïau yng Nghymru na Lloegr amharu ar y cyflenwad dwr yr ochor arall i'r ffin. Pe bai hynny'n digwydd, ac arwain at anghytuno, byddai'n rhaid i Bwyllgor o weinidogion ar y cyd drafod y mater ymhellach.

Fe all cynnig Cyngor Powys yn hawdd esgor ar drafodaeth. Cwestiwn arall, fodd bynnag, ydy a fyddai modd i gynghorau godi treth ar y cwmnïau sy'n cymryd y dŵr. 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.