Marwolaeth Nicola Bulley: Rheoleiddiwr yn cysylltu â dau ddarlledwr

Mae rheoleiddiwr y cyfryngau yn dweud bod sylwadau teulu Nicola Bulley am ymddygiad honedig ITV a Sky News yn eu "pryderu'n fawr."
Mae Ofcom wedi ysgrifennu at y ddau gwmni gan ofyn iddyn nhw "egluro eu gweithredoedd."
Cafodd corff y fam 45 oed ei godi o afon Wyre yn Sir Gaerhirfryn ddydd Sul, wedi iddi ddiflannu tra'n mynd â'i chi am dro ar 27 Ionawr.
Ddydd Llun, cwestiynodd ei theulu rôl y cyfryngau yn ystod yr ymgyrch i ddod o hyd iddi.
Mewn datganiad, dywedodd y teulu: “ Neithiwr fe wnaethon ni geisio deall ac asesu yr hyn a gawsom wybod yn ystod y dydd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, fe gysylltodd Sky News ac ITV â ni yn uniongyrchol, er ein bod ni wedi gofyn am breifatrwydd.
"Mae'n warthus eu bod nhw wedi gweithredu fel hyn. Gadewch lonydd i ni nawr.
“ Hwn yw ein bywyd ni a bywyd ein plant.”
Dywedodd llefarydd ar ran Ofcom ddydd Mawrth: “ Mae'n destun pryder mawr i glywed y sylwadau gan deulu Nicola Bulley am ddau ddarlledwr.
“Rydym wedi ysgrifennu at ITV a Sky i ofyn iddyn nhw egluro eu gweithredoedd. Yna byddwn yn asesu a oes angen gweithredu ymhellach. "