Newyddion S4C

Gwasanaethau rhyngwladol y Post Brenhinol yn ôl i'r arfer wedi 'digwyddiad seibr'

21/02/2023
Post Brenhinol

Cyhoeddodd y Post Brenhinol bod eu gwasanaethau rhyngwladol yn gweithredu yn ôl yr arfer bellach, ar ôl i ‘ddigwyddiad seibr’ achosi trafferthion mawr yn ystod yr wythnosau diwethaf.  

Nid oedd canghennau Swyddfa’r Post yn medru prosesu llythyron na pharseli rhyngwladol i gwsmeriaid oherwydd yr ymosodiad seibr.

Dywedodd Neill O’Sullivan, Rheolwr Gweithredol parseli a phost Swyddfa’r Post: “Mae'r troseddau cudd yma wedi effeithio ar bostfeistri, gan nad oedden nhw’n gallu cynnig y gefnogaeth yr oedd busnesau a chwsmeriaid ei hangen i anfon parseli dramor.

“Rydym wedi gweithio ddydd a nos mewn partneriaeth gyda’r Post Brenhinol i adfer ein holl wasanaethau rhyngwladol yn ein canghennau.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.