Newyddion S4C

Putin (Llywodraeth Rwsia)

Vladimir Putin yn rhoi'r bai ar Wcráin am ddechrau'r rhyfel yn y wlad

NS4C 21/02/2023

Mae Vladimir Putin wedi rhoi'r bai ar Wcráin am ddechrau'r rhyfel, gan ddweud bod y wlad wedi troi'r sefyllfa yn rhanbarth Donbas yn dreisgar.

Wrth annerch ei wlad mewn araith fore Mawrth, bron i flwyddyn ers dechrau'r rhyfel yn Wcráin, dywedodd Putin bod Rwsia wedi ceisio datrys yr ymladd yn y rhanbarth trwy ddulliau heddychon yn 2014.

Ychwanegodd fod Wcráin wedi gorfodi Rwsia i weithredu'n dreisgar.

"Roeddem yn gwneud bob dim er mwyn ceisio datrys y broblem yn heddychlon, trafod ffordd heddychlon i ddod â'r ymladd i ben, ond roedd sefyllfa wahanol yn cael ei pharatoi tu ôl ein cefnau," meddai.

"Hoffwn ddweud eto, nhw dechreuodd y rhyfel, ac roeddem wedi defnyddio grym er mwyn atal hynny."

Fe wnaeth arweinydd Rwsia hefyd gyhuddo'r Gorllewin o chwilio am "bŵer diderfyn" ym materion y byd.

"Mae'r Gorllewin yn defnyddio Wcráin fel arf yn erbyn Rwsia.

"Nid yw'r Gorllewin yn ceisio cuddio eu nod, sef sicrhau colled i Rwsia. Mae'n golygu dod â Rwsia i ben a throi rhyfel lleol yn un fyd-eang. Dyna'r ffordd rydym yn deall y sefyllfa, a byddwn yn ymateb ar sail hynny."

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.