Boris Johnson 'wedi cael cam' yn ystod ei gyfnod fel Prif Weinidog, medd Guto Harri

Mae Guto Harri yn teimlo bod gan Boris Johnson bob hawl i deimlo ei fod wedi cael cam yn ystod ei gyfnod fel Prif Weinidog y DU.
Wrth siarad ar bodlediad Newsagents nos Lun, dywedodd Mr Harri fod ochrau arall i'r digwyddiadau cyn ymddiswyddiad Johnson.
Guto Harri oedd Cyfarwyddwr Cyfathrebu Boris Johnson yn nyddiau olaf ei gyfnod yn brif weinidog.
Dywedodd fod rhai o'r digwyddiadau wnaeth arwain at Johnson yn camu o'r adwy yn "bitw" a bod "ochr arall i partygate."
Ychwanegodd fod gan Johnson "bob hawl i deimlo ei fod wedi cael cam" yn ystod ei gyfnod fel prif weinidog
Erbyn hyn, mae'n dweud bod Johnson yn mwynhau ei gyfnod yn ysgrifennu.
"Y tro diwethaf welais i Boris, roedd e'n mwynhau bywyd yn ysgrifennu. Mae e dal yn ymroddedig i ymladd dros achos Wcráin," meddai.
"Mae e dal yn eithaf hapus a llon ar ôl diwedd anodd, mae e wedi cael effaith arno ac roedd yn rhaid iddo ddygymod â hynny.
"Ond mae dal cariad tuag ato.. ar ôl llawer o sylw hysterig ar y pryd."