Rhybudd melyn am niwl mewn grym i rannau o Gymru

Niwl

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am niwl i rannau o Gymru dros nos. 

Mae'r rhybudd mewn grym rhwng 20:00 nos Iau a 07:00 fore Gwener. 

Fe fydd yn effeithio ar Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Powys a Wrecsam. 

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai rhai hediadau gael eu hoedi neu eu canslo, ac fe all teithiau gymryd mwy o amser gydag oedi hefyd yn bosib i wasanaethau bws a thrên.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.