Newyddion S4C

‘Canolfannau Croeso’ i ffoaduriaid o Wcráin i gau yn raddol yng Nghymru

20/02/2023
Wcráin gwirfoddolwyr Wcráin

Mi fydd ‘Canolfannau Croeso’, sydd wedi cartrefu ffoaduriaid o Wcráin, yn cau yn raddol yng Nghymru.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae’r cam yn rhan o ymdrech i symud ffoaduriaid o Wcráin i “lety hir dymor”

Mae'r llywodraeth yn dweud nad oedd y penderfyniad yn ymwneud â chyllid. 

Ond mae pryderon wedi eu codi gan un aelod seneddol am y penderfyniad sy’n dweud fod y polisi wedi ei wneud ‘heb feddwl’.  

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai unrhyw un sydd yn methu â chanfod llety drwy deuluoedd sydd wedi bod yn cartrefu Wcrainiaid, neu drwy lety preifat neu gymdeithasol yn derbyn “llety arall”.

Pan ddechreuodd y rhyfel yn Wcráin, fe gafodd cartrefi ledled Cymru'r cyfle i wahodd ffoaduriaid i aros efo nhw wrth ffoi. 

Fe gafodd canolfannau croeso, adeiladau fel gwestai wedi eu hail bwrpasu, hefyd eu hagor. 

'Syniad ffôl'

Yn ôl ffigyrau diweddaraf mae dros dair mil o Wcrainiad wedi derbyn nawdd gan Lywodraeth Cymru o dan y drefn. 

Ond mewn datganiad fe gadarnhaodd llefarydd eu bwriad i gau’r canolfannau yn raddol wrth geisio canfod llety hir dymor i Wcrainiad sydd wedi ffoi i Gymru. 

“Mae’r cau yn rhan o ymdrech i helpu pobl o Wcráin symud at lety hirdymor. Nid yw hyn yn ymwneud a chyllid”, meddai llefarydd. 

Ond mae Hywel Williams, Aelod Seneddol dros Arfon yn dweud bod y cynllun yn gweithio fel mae o ar hyn  o bryd. 

“Mae’n fy nharo fel syniad ffôl, mae’r canolfan fel mae o ar hyn o bryd, fel yr un yng Ngwynedd yn gweithio’n dda iawn”.

“Da ni wedi gweld cyd-weithredu da iawn rhwng yr awdurdodau cyfrifol a dwi wedi ymweld â’r ganolfan, mae’r bobl sydd yna ddigon hapus ac yn ail adeiladu eu bywydau”. 

“Mae’n ddigon hawdd dweud bod pobl am symud allan i’r gymuned ond os ‘da ni am wneud polisi ystyrlon nid un fyrbwyll, fe ddylai’r Llywodraeth yng Nghaerdydd baratoi rhywle cyn iddyn nhw gau'r lle lawr”. 

“Dwi’n meddwl fod hyn yn fater o rywun yn gwneud datganiad heb feddwl am y canlyniadau”. 

'Cau yn yr haf'

Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw’n falch o gynnig “noddfa i gymaint o bobl wrth ymateb i’r rhyfel”. 

“Mae’r bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yn parhau i fod yn holl bwysig wrth groesawu Wcrainiad i Gymru a’u helpu i ganfod llety hirdymor a’u cefnogi”. 

Ychwanegodd y llywodraeth y byddai unrhyw un sydd ddim yn gallu symud i gartrefi sy’n eu croesawu, neu i dai preifat neu gymdeithasol, yn derbyn cynnig am lety arall.  

Yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd mae nhw wedi derbyn “cadarnhad swyddogol gan Lywodraeth Cymru” y bydd y Ganolfan Groeso yng Ngwynedd yn cau yn yr haf. 

“Ein blaenoriaeth ydi diogelwch a lleisiant yr unigolion fregus”, meddai llefarydd. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.