Newyddion S4C

daeargryn (DEC)

Daeargryn nerthol arall yn taro de Twrci

NS4C 20/02/2023

Mae tri o bobl wedi marw ar ôl i ddaeargryn oedd yn mesur 6.4 ar y raddfa richter daro de Twrci, bythefnos ers i ddaeargryn ladd degau ar filoedd o bobl yn Nhwrci a Syria. 

Dywedodd y Gweinidog Mewnol Süleyman Soylu hefyd fod 213 o bobl wedi’u hanafu.

Yn ôl asiantaeth ddyngarol yn y wlad, tarodd y daeargryn diweddaraf am 20.04 yn Nhwrci, sef 17.04 yng Nghymru.

Yn ôl gwasanaeth newyddion Reuters, mae difrod pellach i adeiladau yn Antakya.

 7.8 oedd grym y daeargryn a darodd y rhanbarth ar 6 Chwefror gan ladd dros 44,000 o bobl yn Nhwrci a Syria.

Yn ôl maer Hatay, yn ne Twrci, mae pobl wedi eu dal yn gaeth o dan y rwbel wedi'r daeargryn diweddaraf.   

Yn ôl tystion, cafodd y daeargryn nos Lun ei deimlo yn Syria, Yr Aifft a Libanus. 

Dyw maint y difrod ddim yn glir eto. 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.