Taith recriwtio i India yn denu dros 100 o nyrsys i Fwrdd Iechyd Bae Abertawe
Mae Bwrdd Iechyd Bae Abertawe wedi cyflogi dros 100 o nyrsys newydd yn dilyn taith recriwtio ddiweddar i India.
Teithiodd staff o'r bwrdd iechyd i Kochi yn ne orllewin y wlad wrth iddyn nhw geisio mynd i'r afael â phrinder nyrsys ym Mwrdd Iechyd Bae Abertawe.
Yn sgil y daith, fe fydd 107 o nyrsys newydd, rhai ohonynt â 15 mlynedd o brofiad, yn cael eu cyflogi yn ysbytai'r bwrdd iechyd.
Fe fydd y nyrsys newydd, sydd yn cynnwys cymysgedd o staff meddygol, llawfeddygol a theatr yn cyrraedd Abertawe cyn diwedd Chwefror.
Yna fe fyddant yn ymuno â rhaglen hyfforddi ac arholiad cofrestru cyn dechrau ar eu swyddi newydd ym mis Ebrill.
Dywedodd Lynne Jones, Pennaeth Addysg a Recriwtio Nyrsio a arweiniodd y daith, y bydd y nyrsys ychwanegol yn helpu gyda phrinder staff.
“Mae bwlch nyrsys Band 5 yn cau, felly rydym yn gwneud cynnydd. Mae’n fater sy’n cael ei deimlo o amgylch y DU," meddai.
“Ffynonellau nyrsys Band 5 yw ein myfyrwyr nyrsio, a recriwtio nyrsys tramor yn rheolaidd.”
Ychwanegodd Ms Jones bod India yn benodol wedi ei dewis oherwydd fod cynifer o nyrsys yn y wlad.
"Mae angen nyrsys o dramor yma, ac iddyn nhw mae'n gyfle i ddatblygu eu sgiliau ymhellach a phrofi ffordd o fyw gwahanol.
“Yn foesol, gallwn recriwtio o'r gwledydd hyn gan nad ydynt yn cael eu gadael yn brin o nyrsys o safon.
"Yn aml, dim ond contractau 12 mis y mae’r nyrsys rydym yn eu cyfweld wedi’u cael yn eu gwledydd cartref, felly maent hefyd yn edrych ar ymrwymiadau mwy hirdymor, y gallwn eu cynnig."
Llun: Bwrdd Iechyd Bae Abertawe