Ymchwiliad ar y gweill i farwolaeth ffermwr ger Machynlleth

Cyhoeddodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn cynnal ymchwiliad i farwolaeth dyn ar fferm yn Aberhosan ger Machynlleth nos Wener.
Bu farw Iwan Evans a chafodd ei fab anafiadau difrifol yn y digwyddiad ar fferm Cleiriau Isaf.
Cadarnhaodd yr heddlu nad yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.
Mae'r mab, Dafydd Evans, yn cael gofal yn Ysbyty Brenhinol Stoke.
Cadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys fore Llun fod dyn 42 oed mewn ysbyty, a bod ganddo anafiadau difrifol.
Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch a'r Crwner wedi cael gwybod am y digwyddiad.
"Mae ein meddyliau gyda'r teulu sy'n cael cymorth arbenigol," meddai llefarydd ar ran yr heddlu.
"Seilo storio grawn yn chwalu"
Cadarnhaodd Gwasanaeth Tân y Canolbarth a'r Gorllewin fore Llun iddyn nhw gael eu galw i'r fferm am 17:00 brynhawn Gwener, ac i griwiau o Fachynlleth, Aberystwyth, Llanidloes, Pontardawe a Chaerfyrddin ymweld â'r safle wedi i "seilo ar gyfer storio grawn chwalu. "
Cafodd y Gwasanaeth Ambiwlans hefyd ei alw.
Yn ôl y Gwasanaeth Tân, gadawodd y criwiau y fferm am 09.00 fore Sadwrn.
Yn deulu poblogiadd a gweithgar yn ardal Aberhosan, mae teyrngedau wedi eu rhoi i Iwan Evans.
Dywedodd y cynghorydd lleol Elwyn Vaughan: "Mae hyn yn sioc ac yn fraw o glywed y newyddion ac yn dristwch mawr i’r gymuned amaethyddol gyfan sy’n glos iawn ac yn ddios fydd yn rhoi cefn i’r teulu yn ystod y dyddiau a’r wythnosau nesaf.
"Hen deulu amaethyddol lleol, yn weithgar yn lleol ac wrth gwrs Dafydd y mab yn aelod o’r cyngor cymuned ac ati yn weithgar yn ei gymuned, yn aelod o gôr Machynlleth ac felly yn adnabyddus iawn trwy’r ardal gyfan."
Mae Dafydd Evans yn aelod o gôr meibion Machynlleth a chafodd cyngerdd yn Ninas Mawddwy ei ohirio nos Sadwrn fel arwydd o barch.
Dywedodd Aled Griffiths, aelod o’r côr ac asiant i Undeb Amaethyddol NFU Cymru: “Mae hyn yn sefyllfa hynod drist ac mae’r holl ardal mewn sioc.”